Pa wybodaeth bersonol fyddwn yn ei defnyddio?
• Eich enw;
• Eich cyfeiriad;
• Eich cyfeiriad e-bost;
• Eich rhif ffôn;
• Gwybodaeth sy'n ymwneud â'ch ethnigrwydd, anabledd a rhywedd
• Unrhyw wybodaeth bellach a ddarperir ar eich cais am grant.
Sut byddwn yn sicrhau’r wybodaeth bersonol
Darperir gennych chi pan fyddwch yn cofrestru gyda ni ac yn gwneud cais am grant.
Ar gyfer pa ddibenion fyddwn yn defnyddio'r wybodaeth bersonol
Byddwn yn defnyddio eich enw, eich cyfeiriad a'ch manylion cyswllt eraill i gyfathrebu â chi am eich cais am grant;
Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir ar eich ffurflen gais i ystyried eich cais am grant.
Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth sy'n ymwneud â chydraddoldeb at ddibenion cyflawni ein rhwymedigaethau i sicrhau bod gwasanaethau'n gynhwysol i bobl o bob cefndir (rhwymedigaethau cydraddoldeb).
Byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth at ddiben cadw mewn cysylltiad â chi i hyrwyddo datblygiad chwaraeon lle rydych wedi rhoi caniatâd.
Y seiliau cyfreithiol ar gyfer prosesu rydym yn dibynnu arnynt
Bydd angen i ni ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol mewn cysylltiad â'ch cais am grant er mwyn cyflawni tasg a gwblheir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol sydd wedi’i ymddiried ynom ni.
Mae ein defnydd o unrhyw wybodaeth am gydraddoldeb a ddarperir gennych chi at ddibenion cyflawni rhwymedigaethau Chwaraeon Cymru i rwymedigaethau Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus.
Am ba hyd fyddwn yn cadw'r wybodaeth bersonol a pham
Fel rheol, rydym yn cadw gwybodaeth bersonol sy’n berthnasol i unrhyw geisiadau am grant am 5 mlynedd. Os yw eich grant yn ymwneud ag eiddo neu adeiladau, gallwn gadw eich gwybodaeth am 21 mlynedd.
Rydym yn cadw'r wybodaeth at ddibenion monitro.
Canlyniadau peidio â darparu/caniatáu i ni gael gwybodaeth bersonol
Heb eich enw, manylion cyswllt a manylion perthnasol i’ch cais am grant, ni fyddem yn gallu eich ystyried am grant.