Pa wybodaeth bersonol fyddwn ni’n ei defnyddio
Eich enw;
Eich manylion cyswllt (fel eich rhif ffôn, cyfeiriad post neu gyfeiriad e-bost);
Manylion am eich ymholiad/cwyn.
Sut byddwn yn sicrhau’r wybodaeth bersonol
Cael ei darparu gennych chi pan rydych yn cysylltu â ni drwy wneud galwad ffôn, ysgrifennu atom, negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol neu anfon e-bost atom.
At ba ddiben rydym yn defnyddio’r wybodaeth bersonol
Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth bersonol i ddelio â’ch ymholiad/cwyn;
Byddwn yn gwneud cofnod o’ch ymholiad/cwyn at ddibenion gweinyddu mewnol a dadansoddiad ystadegol.
Y sail gyfreithiol rydym yn dibynnu arni
Mae defnyddio eich gwybodaeth bersonol at ddiben delio â’ch ymholiad/cwyn yn seiliedig ar ein budd dilys mewn sicrhau bod ein sefydliad yn cael ei weithredu’n effeithlon ac yn effeithiol;
Mae cadw cofnod o’ch ymholiad yn seiliedig ar ein budd dilys o ran sicrhau ein bod yn gallu gweithredu sefydliad effeithlon.
Am faint o amser rydym yn cadw’r wybodaeth bersonol a pham
Cedwir cofnodion am eich ymholiad/cwyn a’r dogfennau cysylltiedig nes bod y mater yn cael ei ddatrys er boddhad i bawb.