Mae Pwll Cenedlaethol Cymru yn Abertawe yn gartref i bwll cystadlu 50m wyth lôn o safon ryngwladol a phwll cynhesu 25m.
Gyda’r 1200 o seddau i wylwyr, cyfleusterau newid a chyfleusterau cryfder a siapio, mae’n gartref i Ganolfan Perfformiad Cenedlaethol Nofio Cymru – canolfan i nofio elitaidd a pherfformiad yng Nghymru.
Mae gan y cyfleuster cwbl fodern drawst sy’n gallu mynd o dan y dŵr yn llwyr fel bod posib rhannu’r pwll mwyaf yn ddau bwll 25m. Ac mae’r llawr symudol yn caniatáu ar gyfer dyfnderoedd ac onglau llawr amrywiol.
Agorwyd y ganolfan nodedig yn 2003 a’i gwneud yn bosib ar ôl i Chwaraeon Cymru ddyfarnu i’r prosiect ei grant unigol mwyaf erioed gan y Loteri Genedlaethol, sef mwy nag £8m. Cyfrannodd Cyngor Abertawe a Phrifysgol Abertawe gyllid tuag at y prosiect hefyd.
Wedi’i adeiladu ym Mhentref Chwaraeon Rhyngwladol Prifysgol Abertawe, mae ar agor i’r cyhoedd hefyd.