Er mwyn i chwaraeon a chyrff llywodraethu cenedlaethol gael eu cydnabod yn swyddogol yn y DU, mae'n rhaid iddynt gael eu cymeradwyo drwy broses ymgeisio ffurfiol.
Mae cydnabyddiaeth yn bolisi ar y cyd, sy'n cael ei weithredu gan bedwar Cyngor Chwaraeon y gwledydd cartref (Chwaraeon Cymru, Sport England, Sport Northern Ireland a Sport Scotland) ac UK Sport. Mae’r sefydliadau hyn yn trafod ceisiadau am gydnabyddiaeth i chwaraeon a chorff llywodraethu cenedlaethol ar gyfer y chwaraeon dan sylw mewn partneriaeth fel Panel Cydnabyddiaeth y DU.
Mae'r Broses Cydnabod Chwaraeon a Chyrff Rheoli Cenedlaethol (CRhC) wedi cael ei chau ar hyn o bryd i bob cais newydd tra bo Cynghorau Chwaraeon y DU (Sport England, Sport Northern Ireland, sportscotland, Chwaraeon Cymru ac UK Sport) yn cynnal adolygiad o’r polisi a’r broses gydnabod.
Ein nod ni yw ailagor y broses yn haf 2025 pan fydd y polisi diwygiedig a’r meini prawf ymgeisio yn cael eu cyhoeddi, ynghyd â ffurflenni cais newydd a chanllawiau i ymgeiswyr.
Edrychwch yn ôl yma am fanylion.
Yn y cyfamser, byddem yn eich annog i barhau i ddatblygu eich chwaraeon a'r llywodraethu yn eich CRhC. Efallai y byddwch eisiau cyfeirio at y Polisi Cydnabod blaenorol (2017) a’i Ddogfen Ganllaw i Ymgeiswyr gysylltiedig i gael dealltwriaeth o’r meini prawf yr oeddem yn gofyn i CRhC eu bodloni yn flaenorol er mwyn cael eu cydnabod. Mae rhywfaint o wybodaeth ddefnyddiol iawn ar wefan y Sports Governance Academy hefyd a gallwch ddarllen Fframwaith Gallu Chwaraeon Cymru a'r Fframwaith Llywodraethu ac Arwain ar gyfer Cymru sy’n cynnig arweiniad ar arfer da.