Skip to main content
  1. Hafan
  2. Partneriaid
  3. Partneriaethau Chwaraeon

Partneriaethau Chwaraeon

Nod y Partneriaethau Chwaraeon yw newid y gêm ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, gan drawsnewid y ffordd y mae chwaraeon cymunedol yn cael eu creu, eu cyflwyno, eu harwain a'u cyllido.

Wedi’u cynllunio i oresgyn anghydraddoldebau parhaus ac ystyfnig o ran cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, bydd y partneriaethau hyn yn helpu i drawsnewid Cymru yn genedl actif lle gall pawb fwynhau chwaraeon am oes.

Beth yw Partneriaeth Chwaraeon?

Mae pum ardal yng Nghymru yn ffurfio Partneriaethau Chwaraeon y genedl. Mae'r partneriaethau hyn yn endidau rhanbarthol newydd sydd wedi'u sefydlu'n bwrpasol a fydd yn darparu arweinyddiaeth strategol, cynllunio a chomisiynu ar gyfer chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn yr ardal.

Pam fod angen i bethau newid?

Rydyn ni eisiau i Gymru fod yn genedl actif lle mae gan bawb y cyfle i fwynhau chwaraeon am oes. I rai mae hyn yn wir eisoes, ond er gwaethaf ymdrechion gorau llawer o bobl, mae eraill yn parhau i fethu â chael mynediad at yr un lefel o gyfleoedd i gymryd rhan a mwynhau bod yn gorfforol actif.

Yng Nghymru, mae cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol 3 gwaith yr wythnos o leiaf yn cael ei gydnabod fel dangosydd llesiant cenedlaethol. Yn frawychus, mae tua hanner yr holl bobl ifanc sy'n nodi eu bod yn Ddu, Asiaidd neu o grwpiau lleiafrifoedd ethnig; mwy na hanner yr holl bobl ifanc ag anabledd; bron i 6 o bob 10 person ifanc o'r cymunedau mwyaf difreintiedig; a mwy na hanner yr holl ferched yn parhau i gymryd rhan yn llai aml na hyn.

Fodd bynnag, mae canran syfrdanol o 96% o bobl ifanc wedi dweud yr hoffent wneud mwy o chwaraeon, gan ddangos lefel enfawr o gyfle os yw’r ddarpariaeth chwaraeon yn briodol.

Sut bydd Partneriaethau Chwaraeon yn helpu?

Mae nifer o fanteision posibl i Bartneriaethau Chwaraeon, a fydd yn amrywio mewn gwahanol ardaloedd yn dibynnu ar bob partneriaeth a beth sydd fwyaf addas ar eu cyfer.

Bydd y Partneriaethau Chwaraeon yn gwneud y canlynol:

  • Mynd i'r afael ag anghydraddoldebau mewn cymryd rhan mewn chwaraeon ledled Cymru.
  • Cynyddu amrywiaeth y partneriaid strategol a'r mecanweithiau darparu yn y rhanbarthau.
  • Ein cynorthwyo ni i sicrhau bod y gefnogaeth a'r cyfleoedd priodol yn eu lle ar gyfer y rhai nad ydynt yn gwneud ymarfer corff yn rheolaidd – gyda ffocws clir ar ddileu rhwystrau i'r rhai sydd angen yr help mwyaf.
  • Ein helpu ni i gymryd camau i ateb y galw uchel gan y rhai sy'n actif ond sydd eisiau gwneud llawer mwy.
  • Galluogi cryfder cyfunol, drwy gyfuno adnoddau, dysgu ac arbenigedd ar draws pob rhanbarth.
  • Rhoi'r gallu i bob rhanbarth dargedu adnoddau tuag at y rhai sydd â'r angen mwyaf.

Ble fydd y Partneriaethau Chwaraeon yn cael eu lleoli?

Dyma bum ardal y Partneriaethau Chwaraeon:

Map yn dangos y pum rhanbarth y Partneriaethau Chwaraeon. Mae Gogledd Cymru yn cynnwys Ynys Môn, Gwynedd, Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Conwy a Wrecsam. Mae Canolbarth Cymru yn cynnwys Ceredigion a Phowys. Mae Gorllewin Cymru yn cynnwys Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Mae Canolbarth y De yn cynnwys Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, Caerdydd a Bro Morgannwg. Mae Gwent yn cynnwys Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd, Torfaen a Blaenau Gwent.

 

Sefydlwyd Partneriaeth Chwaraeon Gogledd Cymru, Gogledd Cymru Actif, yn 2021-22. Fel rhan o’i strategaeth deng mlynedd newydd, lansiwyd ei Chronfa Arloesi ym mis Medi 2023, gan gefnogi prosiectau, mentrau a phartneriaethau a fydd yn galluogi mwy o bobl i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol a chwaraeon.

Darllen strategaeth Actif North Wales

Ymgorfforwyd Partneriaeth Chwaraeon Gorllewin Cymru ym mis Medi 2023. Bydd Partneriaeth Chwaraeon Gorllewin Cymru yn gweithredu fel cwmni cyfyngedig drwy warant (gyda'r potensial i fabwysiadu statws elusennol ar yr amser cywir), o fewn fframwaith llywodraethu cadarn a thryloyw. Wrth galon y Bartneriaeth bydd Bwrdd cytbwys, cynhwysol, amrywiol a medrus a fydd yn canolbwyntio ar ein cyfeiriad strategol.