Mae gan bawb yng Nghymru hawl i gymryd rhan mewn chwaraeon diogel.
Mae rhai pobl ifanc ac oedolion sy’n wynebu risg wedi cael eu cam-drin a/neu ddioddef arferion gwael wrth gymryd rhan mewn chwaraeon. Ac wrth gwrs, efallai fod rhai plant neu oedolion sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon yn dioddef camdriniaeth y tu allan i chwaraeon – gartref neu yn y gymuned ehangach.
Mae cynnydd sylweddol wedi cael ei wneud o ran diogelu plant ac oedolion mewn perygl ond ni allwn orffwys ar ein rhwyfau o ran cadw pobl yn ddiogel. Mae Chwaraeon Cymru’n adolygu ac yn datblygu’r cymorth rydyn ni’n ei ddarparu i bartneriaid a’r sector yn barhaus er mwyn gwneud yn siŵr bod pawb yn gallu mwynhau chwaraeon am oes.