Polisi Chwaraeon Cymru
Bydd yr holl grantiau a buddsoddiadau mawr a wneir gan Chwaraeon Cymru:
- Yn cael eu hyrwyddo’n ddwyieithog;
- Yn rhoi’r dewis i’r ymgeisydd ddilyn y broses ymgeisio lawn drwy gyfrwng y Gymraeg;
- Yn ceisio cael effaith gadarnhaol ar y defnydd o’r Gymraeg yn y byd chwaraeon;
- Yn sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg; ac
- Ni fyddant yn cael UNRHYW EFFAITH NEGYDDOL ar y defnydd o’r Gymraeg yn y byd chwaraeon.
Sut bydd hyn yn gweithio’n ymarferol?
1. Cael eu hyrwyddo’n ddwyieithog.
Wrth hyrwyddo grant, RHAID cydymffurfio â Chynllun Iaith Gymraeg Chwaraeon Cymru. Gall yr enghreifftiau gynnwys deunyddiau marchnata, cyfryngau cymdeithasol neu ddigwyddiadau cyhoeddus.
2. Rhoi’r dewis i’r ymgeisydd ddilyn y broses ymgeisio lawn drwy gyfrwng y Gymraeg.
RHAID i unrhyw broses neu system ymgeisio gydymffurfio â Chynllun Iaith Gymraeg Chwaraeon Cymru. Rhaid i unrhyw system ar-lein neu bapur fod yn ddwyieithog, a bydd ymgeiswyr yn gallu siarad yn Gymraeg â rhywun i gael arweiniad a chymorth.
3. Ceisio cael effaith gadarnhaol ar y defnydd o’r Gymraeg yn y byd chwaraeon.
Bydd gwybodaeth am ddatblygu’r Gymraeg ac am effaith y grant yn cael ei chynnwys fel mater o drefn wrth ddyfarnu holl grantiau Chwaraeon Cymru.
Bydd data’n cael eu casglu am ddarpariaeth a chyfranogiad Cymraeg drwy’r broses ymgeisio. Gall Chwaraeon Cymru a’r sector ddefnyddio’r data hyn yn rhagweithiol i gynllunio defnydd pellach o’r Gymraeg yn y byd chwaraeon.
Bydd gan bob cynllun grant broses fonitro i sicrhau cydymffurfio ag amodau’r grant. Bydd y lefel o fonitro’n dibynnu ar y grant sy’n cael ei roi.
Bydd gan bob grant elfen gydymffurfio fel mater o drefn. Er enghraifft, yn dibynnu ar lefel y grant, gallai diffyg cydymffurfio ag amodau’r grant arwain at beidio â dyfarnu grant yn y dyfodol, neu at hawlio’r arian yn ôl.
4. Peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
Rhaid i’r broses ymgeisio lawn gydymffurfio â Chynllun Iaith Gymraeg Chwaraeon Cymru.
5. Peidio â chael unrhyw effaith negyddol ar y defnydd o’r Gymraeg yn y byd chwaraeon.
Ni fydd grant yn cael ei gymeradwyo os oes ganddo’r potensial i effeithio’n negyddol ar y defnydd o’r Gymraeg. Er enghraifft, pe bai gan glwb bolisi sy’n gwahardd cynnig unrhyw gyfleodd drwy gyfrwng y Gymraeg.