Agorodd y ganolfan nodedig yn 2000 ac mae wedi’i lleoli ar gampws chwaraeon Prifysgol Metropolitan Caerdydd yng Nghyncoed. Costiodd £7m i’w hadeiladu a chafodd ei chyllido gan grant gwerth £5.6m gan y Loteri Genedlaethol drwy Chwaraeon Cymru. Mae drws nesaf i drac awyr agored.
Y GANOLFAN ATHLETAU DAN DO GENEDLAETHOL
Mae gan y Ganolfan Athletau Dan Do Genedlaethol, sy’n cael ei hadnabod fel NIAC yn gryno, y canlynol:
- trac cystadlu 200m llawn gydag ymylon
- darn syth 60m naw lôn
- darn syth 140m chwe lôn ar wahân
- pyllau Naid Drebl a Hir ar gyfer cystadlu a hyfforddi
- pyllau Neidio â Pholyn ar gyfer cystadlu a hyfforddi
- pwll Naid Uchel ar gyfer cystadlu a hyfforddi
- rhwydi ymarfer ar gyfer pob camp daflu
- labordy biomecaneg gydag offer llawn
- ardal driniaeth ar gyfer Meddygaeth Chwaraeon/Ffisiotherapi
- ardal hyfforddi â phwysau benodol
- campfa cryfder a siapio
Mae gan y cyfleuster offer llawn i safon ryngwladol a lle i eistedd i 690 o wylwyr.
Mae chwaraeon eraill yn cynnal digwyddiadau a hyfforddiant yn NIAC yn rheolaidd gan ei bod wedi cael ei chynllunio i gartrefu campau fel pêl rwyd, pêl fasged, pêl foli a mwy.
Gwasanaethau Perfformiad Uchel
Ceir gwasanaethau meddygaeth chwaraeon yn NIAC gyda ffisiotherapi a thylino ar gael ar y safle. Mae ardaloedd triniaeth, campfa cryfder a siapio, baddon rhew ar ochr y trac a labordy biomecaneg gydag offer llawn yn sicrhau bod athletwyr elitaidd yn cael y gefnogaeth orau un.
Hefyd, mae Athrofa Chwaraeon Cymru’n cefnogi rhaglen elitaidd Athletau Cymru yn llawn gyda gwasanaethau fel maeth perfformiad, seicoleg perfformiad a ffordd o fyw yn perfformio. Mae ein hymarferwyr ni’n ymweld yn aml â NIAC neu gall athletwyr wneud apwyntiadau i fynd i Athrofa Chwaraeon Cymru.
Pwy sy’n hyfforddi yn y Ganolfan Athletau Dan Do Genedlaethol yng Nghaerdydd?
Dros y blynyddoedd, mae’r Ganolfan Athletau Dan Do Genedlaethol wedi datblygu i fod yn lleoliad i baratoi ar gyfer ennill medalau.
Pan agorodd drysau’r cyfleuster am y tro cyntaf, daeth yn ail gartref yn fuan iawn i stabl hyfforddi Linford Christie, oedd yn cynnwys Jamie Baulch, Darren Campbell a Katharine Merry. Hefyd roedd Colin Jackson a Christian Malcolm i’w gweld yma’n wythnosol yn ymarfer yn galed.
Heddiw, mae’r Paralympiad sydd â medal aur, Aled Sion Davies, ymhlith y rhai sy’n perffeithio eu crefft yma, ac mae hefyd yn bencadlys hyfforddi i lawer iawn o sêr newydd.
Rhagor o Wybodaeth
Ewch i: http://www.cardiffmet.ac.uk/about/sport/Pages/National-Indoor-Athletics-Centre-(NIAC).aspx
Contact
Cardiff Metropolitan University
NIAC
Cyncoed Campus
Cyncoed Road
Cardiff
CF23 6XD
029 2041 6777