Mae’r datganiad hwn yn berthnasol i gynnwys a gyhoeddir ar y parth www.sport.wales domain.
Mae'r wefan hon yn cael ei gweithredu gan Gyngor Chwaraeon Cymru (Chwaraeon Cymru). Mae wedi'i chynllunio i gael ei defnyddio gan gymaint o bobl â phosibl. Dylai'r testun fod yn glir ac yn syml i'w ddeall. Dylech allu:
- chwyddo hyd at 300% heb broblemau
- defnyddio'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- newid y dudalen i fodd cyferbyniad uchel, modd graddfa lwyd neu fodd lliwiau gwrthdro.
- defnyddio’r canfyddwr cyswllt i leoli pob dolen ar y dudalen drwy faes dethol syml
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd.
MESURAU I GEFNOGI HYGYRCHEDD
Mae Chwaraeon Cymru yn gweithredu’r mesurau canlynol i sicrhau hygyrchedd gwefan Chwaraeon Cymru (www.chwaraeon.cymru):
- Integreiddio hygyrchedd yn ein harferion caffael.
- Darparu hyfforddiant hygyrchedd i'n staff.
- Adolygu a diweddaru cynnwys yn rheolaidd.
- Sefydlu contract gydag archwilwyr allanol ar gyfer archwiliadau blynyddol.
RYDYM HEFYD YN CEISIO SICHRAU’R CANLYNOL:
- Mae pob llun ar ein safleoedd yn cynnwys testun amgen priodol.
- Mae pob elfen ryngweithiol o'r wefan yn bosibl ei chyrraedd mewn gwahanol ffyrdd, gan gynnwys drwy lywio bysellfwrdd.
- Mae’r elfennau rhyngweithiol yn newid arddull pan gânt eu hofran gyda'r llygoden neu eu ffocysu drwy lywio bysellfwrdd.
- Mae pob lliw blaendir a chefndir yn cael eu gwirio i sicrhau cyferbyniad digonol, neu rhoddir testun amgen yn achos lluniau.
- Mae ein cynnwys wedi'i ysgrifennu'n glir, yn gryno, heb jargon ac mewn Cymraeg a Saesneg clir.
- Mae pob tudalen yn defnyddio penawdau mewn ffordd resymegol a threfnus.
- Mae’n hawdd dod o hyd i bob ‘cais am weithredu’.
- Defnyddir symbolau (e.e. >) mewn cyd-destun ar gyfer eu defnydd semantig.
- Mae posib defnyddio llywio bysellfwrdd ym mhob ffurflen, gyda botymau cyflwyno ac ymateb priodol os bydd llwyddiant neu fethiant.
STATWS CYDYMFFURFIO
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio â safon AA y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau fersiwn 2.1.
CYNNWYS ANHYGYRCH
Mae'r cynnwys a restrir isod yn anhygyrch am y rhesymau canlynol.
Diffyg cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd
Problemau a nodwyd rydym yn gweithio drwyddyn nhw:
- Ni ddylai testun alt fod yn enw ffeil delwedd. WCAG 2.1 A F30
- Ni ddylai delweddau addurniadol a gofod ddefnyddio priodweddau disgrifiadol alt WCAG 2.1 A F39
- Ni ddylai teitl y ddogfen fod yn wag. WCAG 2.1 A F25
- Dyblygu ID - defnyddir yr un ID ar fwy nag un elfen. WCAG 2.1 A 4.1.1
- Rhaid i bob elfen gynnwys testun neu ddelwedd gyda phriodwedd alt. WCAG 2.1 A F89
- Dylai ffigurau a delweddau mewn dogfennau PDF gynnwys testun ALT nad yw'n wag, ac eithrio ar gyfer delweddau addurniadol y dylid eu marcio fel arteffactau. WCAG 2.1 A F65
- Ni ddylai penawdau fod yn wag. WCAG 2.1 A 1.3.1
- Nid oes gan reolaeth ffurf HTML enw hygyrch. WCAG 2.1 A F68
- Nodi penawdau rhesi a cholofnau mewn tablau data gan ddefnyddio’r elfennau, a marcio tablau llunwedd gyda rôl=cyflwyniad. WCAG 2.1 A F91.
- Rhaid i elfennau delwedd gael enw hygyrch. WCAG 2.1 A F65
- Mae’r ddolen yn defnyddio testun cyffredinol fel 'Cliciwch Yma' heb unrhyw destun amgylchynol yn egluro pwrpas y ddolen. WCAG 2.1 A F63
- Dim gofod rhwng priodweddau. WCAG 2.1 A 4.1.1
- Rhaid tagio ffeiliau PDF i fod yn hygyrch i ddarllenwyr sgrin. WCAG 2.1 A 1.3.1
- Dyfyniad ' yn enw priodwedd. Achos tebygol: Dyfyniad cyfatebol ar goll yn rhywle yn gynharach. WCAG 2.1 A 4.1.1
- Dyfyniad " yn enw priodwedd. Achos tebygol: Dyfyniad cyfatebol ar goll yn rhywle yn gynharach. WCAG 2.1 A 4.1.1
- Mae sawl dolen ar dudalen yn rhannu'r un testun dolen â'r cyd-destun cyfagos, ond yn mynd i wahanol gyrchfannau. WCAG 2.1 A F63
- Rhaid i'r label gweledol ymddangos yn enw hygyrch dolenni a rheolyddion. WCAG 2.1 A F96
- Mae'r ddelwedd hon wedi'i diweddaru heb ddiweddaru'r briodwedd alt ar y dudalen. WCAG 2.1 A F20
- Defnyddiwch farcio semantig fel cryf yn lle defnyddio'r nodwedd pwysau ffont CSS. WCAG 2.1 A F2
- Defnyddiwch y briodwedd iaith i nodi iaith y dudalen. WCAG 2.1 A 3.1.1
- Mae dogfen Word yn cynnwys graffig heb Destun Alt. WCAG 2.1 A 1.1.1
- Mae dogfen Word yn cynnwys graffig neu wrthrych heb fod yn fewnlinell. WCAG 2.1 A 1.3.2
- Gwnewch yn siŵr bod digon o gyferbyniad rhwng y testun a'r lliwiau cefndir. WCAG 2.1 AA 1.4.3
- Mae’r amlinelliad CSS neu’r arddull border ar yr elfen hon yn ei gwneud yn anodd neu'n amhosibl gweld amlinelliad ffocws y ddolen ddotiog. WCAG 2.1 AA F78
Rydym yn gweithio i ddatrys y materion hyn.
Baich anghymesur
Rydym yn credu y byddai trwsio’r problemau hygyrchedd gyda pheth cynnwys yn anghymesur oherwydd bydd y platfform perthnasol yn cael ei ddirwyn i ben yn fuan.
Tudalennau recriwtio (https://recruitment.sportwales.org.uk/Vacancy.aspx). Mae'r rhain yn dudalennau gwaddol ac mae prosiect i ddiweddaru a darparu system addas i'r pwrpas yn cael ei weithredu.
CYNNWYS NAD YW O FEWN CWMPAS Y RHEOLIADAU HYGYRCHEDD
Fideo Byw
Nid ydym yn bwriadu ychwanegu capsiynau at ffrydiau fideo byw oherwydd mae fideo byw wedi'i heithrio rhag bodloni'r rheoliadau hygyrchedd.
PDFs a dogfennau eraill
Mae rhai o'n dogfennau PDF a Word yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, mae gennym ni PDFs gyda gwybodaeth am sut gall defnyddwyr gael mynediad i'n gwasanaethau, a ffurflenni wedi'u cyhoeddi fel dogfennau Word. Rydym wedi ceisio archwilio a thrwsio, neu ddileu, pob PDF anhygyrch o'r wefan hon.
Cynhyrchion a gwefannau trydydd parti
Mae’n bosibl y bydd angen defnyddio meddalwedd trydydd parti ar rai rhannau o’n gwefan. Gall ein gwefan hefyd gynnwys uwchddolenni i wefannau allanol trydydd parti, er hwylustod i chi. Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros y cynnwys a gyhoeddir ar wefannau trydydd parti na'u cynhyrchion. Cyfeiriwch at wefan y darparwr am wybodaeth am gymorth.
Trwsio Materion
Rydym yn gweithio ar frys drwy welliannau i hygyrchedd. Byddwn yn diweddaru'r datganiad pan fydd materion wedi'u datrys neu pan fyddwn yn disgwyl iddynt gael eu trwsio.
Rydym hefyd yn gwneud gwelliannau parhaus i is-barthau a safleoedd trydydd parti cymaint â phosibl. Gellir darparu mwy o fanylion am hyn gan ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.
ADBORTH
Rydym yn croesawu eich adborth ar hygyrchedd gwefan Chwaraeon Cymru. Rhowch wybod i ni os ydych yn dod ar draws rhwystrau hygyrchedd ar wefan Chwaraeon Cymru neu os oes arnoch angen cynnwys mewn fformat gwahanol.
Rhif Ffôn: 02920 338359
E-bost: COMMUNICATIONS@SPORT.WALES
Cyfeiriad post: Cyfathrebu a Digidol, Chwaraeon Cymru, Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru, Gerddi Sophia, Caerdydd, CF11 9SW
Ein nod yw ymateb i adborth o fewn 5 diwrnod busnes
GWEITHDREFN ORFODI
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus gyda sut rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
SUT GWNAETHOM BROFI’R WEFAN HON
Rydym wedi defnyddio safon AA y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau fersiwn 2.1 i brofi’r wefan hon.
Mae tîm digidol Chwaraeon Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod ein gwasanaethau ar-lein yn hygyrch i bob defnyddiwr ac yn cydymffurfio â lefel AA y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau – WCAG 2.1, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd y Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.
Gan ddechrau yn gynnar yn 2022, rydym wedi ffurfio partneriaeth gyda Test Partners Limited sy’n cynhyrchu adroddiadau blynyddol ar ein cydymffurfiaeth â safon AA WCAG 2.1 ac unrhyw bryderon hygyrchedd.
PARATOI’R DATGANIAD HYGYRCHEDD HWN
- Paratowyd y datganiad hwn ar 30 Tachwedd 2020 ac mae wedi cael ei ddiweddaru ar:
- 25ain Mai 2021.
- 14eg Awst 2022.
- 5 Mehefin 2024