Mae Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru yn eiddo i Chwaraeon Cymru ac mae’n cael ei rheoli ganddo. Mae’r defnyddwyr yn cael mynediad i gyfleusterau un o ganolfannau chwaraeon mwyaf y wlad gyda’r offer gorau a gallant fwynhau’r un safonau o gyfleusterau ag a ddarperir ar gyfer ein hathletwyr elitaidd.
AMDANOM NI
Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru yw cartref chwaraeon yng Nghymru ac mae ganddi leoliad yng nghanol Dinas Caerdydd, ac eto mae wedi’i hamgylchynu gan barcdir deniadol sy’n darparu amgylchedd delfrydol i bob defnyddiwr.
Mae ein cyfleusterau dan do ac awyr agored helaeth yn cael eu defnyddio gan fwy na 30 o gyrff rheoli chwaraeon Cymru, gan gynnwys Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru. Mae'r ganolfan yn cynnal cystadlaethau rhyngwladol, gwersylloedd hyfforddi, addysg hyfforddwyr, cymwysterau a hyfforddiant athletwyr unigol yn rheolaidd. Mae Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru yn cynnig ystod eang o ddosbarthiadau ffitrwydd, aelodaeth campfa, chwaraeon raced, ystafelloedd cyfarfod a chyfleusterau llety.
defnydd cyhoeddus o’R Cyfleusterau
Er bod ein cyfleusterau wedi'u cynllunio i helpu athletwyr elitaidd i gyrraedd brig eu camp, gallwch ddod yn aelod i ddefnyddio ein cyfleusterau.
Mae’r aelodau'n elwa o 31 o ddosbarthiadau ffitrwydd yr wythnos, cyfraddau is ar archebu cyfleusterau fel cyrtiau badminton a chaeau pêl droed pump bob ochr a chyfraddau is am aros yn ein llety gwely a brecwast.
Mae gwybodaeth allweddol i’w gweld isod am yr hyn sydd ar gael a beth i'w ddisgwyl pan fyddwch yn ymweld â ni.