Main Content CTA Title

HIIT

Mae HIIT yn cyfeirio at Hyfforddiant Seibiannau Dwysedd Uchel. Mae'r dosbarth yn cynnwys amrywiaeth o ymarferion gwahanol gan weithio grwpiau cyhyrau niferus, a newid am yn ail rhwng cyfnodau o symudiadau dwysedd uchel ac wedyn cyfnodau byr o symudiadau dwysedd is. Mae'r dosbarth yma’n gwella eich ffitrwydd cardiofasgwlaidd, yn cynyddu cyflymder, ac yn llosgi digon o galorïau. Mae’n ddosbarth ardderchog i unrhyw un sydd eisiau cyrraedd ei nodau ffitrwydd a cholli braster!