Skip to main content

Llety

Wedi’u lleoli ar dri llawr yn y prif adeilad, ceir cyfuniad o ystafelloedd sengl, dau wely sengl a threbl en-suite.

Mae gennym ni 2 ystafell dau wely sengl addas ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn, a mynediad lifft a chyfleusterau ystafell ymolchi en-suite.

Opsiynau Gwely a Brecwast, llety llawn neu hanner llety ar gael.

Cewch gyrraedd o 14:00 ar y diwrnod cyrraedd a rhaid gadael yr ystafelloedd erbyn 10:00 ar y diwrnod gadael.

Defnydd am ddim o gyfleusterau chwaraeon ar gyfer pobl sy’n aros yn y llety, yn amodol ar argaeledd a’r telerau a’r amodau.

I wirio argaeledd ac archebu, ffoniwch 0300 3003123.

(Nid ydym yn caniatáu i ieuenctid dan 18 oed aros yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru oni bai fod rhiant neu warcheidwad hefyd yn aros yn y Ganolfan. Rydym yn cadw'r hawl i ofyn am brawf ffotograffig dilys o bwy yw unigolion a beth yw eu hoedran, felly dewch â'r prawf ffotograffig yma gyda chi a gwnewch yn siŵr bod yr holl westeion sy'n rhan o'ch archeb yn dod â thystiolaeth o bwy ydyn nhw gyda nhw hefyd. Fel arall ni fyddwn yn caniatáu i chi a / neu eich gwesteion aros yma.)