Cwblhawyd yr ymchwil gan Dr Natalie Brown – yn gweithio ar ran Chwaraeon Cymru, Sefydliad Gwyddor Perfformiad Cymru a Phrifysgol Abertawe – ynghyd â Laura Weightman (Olympiad 1500m a hyfforddwr) a Pippa Woolven (cyn athletwr o Brydain Fawr a sylfaenydd Project RED-S) mewn cydweithrediad â Rhaglen Unlocked yr Women’s Sport Trust.
Dywedodd Dr Brown: “Mae’r mislif yn bwnc tabŵ o hyd mewn chwaraeon elitaidd ac yn parhau i gael effaith negyddol ar ferched sy’n cystadlu ar y lefel uchaf. Mae canfyddiadau’r arolwg yma unwaith eto’n tynnu sylw at yr angen am i bawb yn y byd chwaraeon greu amgylchedd agored a chefnogol lle mae posib siarad am gylch y mislif heb boeni am letchwithdod, cywilydd neu embaras.
“Mae’r ymchwil yn dweud wrthym ni bod bylchau mewn gwybodaeth am gylch y mislif, a beth all helpu athletwyr i reoli eu symptomau, felly rydyn ni wedi creu modiwl e-ddysgu newydd yn ddiweddar i helpu hyfforddwyr ac athletwyr i ddysgu mwy am y pwnc.”
Mae posib gweld y modiwl ar-lein newydd am gylch y mislif yma, ac mae’r fideo a'r wefan yma’n adnoddau defnyddiol eraill.
Wrth sôn am y canfyddiadau diweddaraf, dywedodd Owen Lewis, Cyfarwyddwr Cynorthwyol System Chwaraeon, Strategaeth a Gwasanaethau yn Chwaraeon Cymru: “Mae’r ymchwil yma’n dangos pa mor bwysig yw hi i gyrff rheoli cenedlaethol agor sgyrsiau am effaith cylch y mislif a chefnogi eu staff a’u gwirfoddolwyr i ddod yn fwy gwybodus. Fe all y profiadau byw sydd wedi’u casglu yn yr ymchwil yma ein helpu ni i ddeall a darparu ar gyfer anghenion merched a genethod yn well, a gwneud newidiadau priodol sydd â’r cyfranogwr yn rhan ganolog ohonyn nhw.
“Gan feddwl am y canfyddiadau hyn, ynghyd â’r ymchwil diweddar i’r rhwystrau i gynnydd i lwybrau chwaraeon yng Nghymru, fe fyddwn i’n annog ein holl bartneriaid ni i ystyried beth yw eu mecanweithiau presennol ar gyfer gwrando ar leisiau eu cyfranogwyr a deall eu hanghenion.”
AWGRYMIADAU ALLWEDDOL AR GYFER HYFFORDDWYR AC ATHLETWYR
- Gwella eich dealltwriaeth: Mae cylch y mislif yn broses fiolegol sy’n cael ei rheoli gan hormonau. Mae’r symptomau’n gyffredin i athletwyr eu profi o ganlyniad i gylch y mislif, ond bydd profiad pawb yn unigryw.
- Dangosydd pwysig o iechyd da: Mae cylch y mislif yn ddangosydd pwysig o iechyd a pherfformiad da. Dylai athletwyr ofyn am gyngor meddygol os yw’r mislif yn dod i ben neu ddim yn dechrau erbyn 16 oed.
- Mae’n dda siarad: Gall siarad fod y dull gorau o reoli symptomau. Dylai hyfforddwyr ac athletwyr geisio siarad yn agored am gylch y mislif er mwyn sicrhau’r hyfforddi a’r perfformiad cystadlu gorau.
- Mae defnyddio iaith glir yn bwysig: Peidiwch â defnyddio geiriau eraill. Defnyddiwch y geiriau ‘mislif’ a ‘chylch y mislif’.
- Amgylchedd cefnogol: Rhaid osgoi dangos teimladau o letchwithdod. Creu systemau cefnogi a chychwyn y sgwrs.
- Monitro: Awgrymwch bod unigolion yn tracio cylch y mislif a'u symptomau am o leiaf dri mis er mwyn cynyddu hunanymwybyddiaeth a hunanreolaeth.
- Cyfleusterau: Meddyliwch am fynediad i doiledau yn ystod hyfforddiant a chystadlaethau, ynghyd ag argaeledd cynhyrchion mislif.