Mae grŵp o arweinwyr hyfforddi o bob rhan o Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cymryd rhan mewn rhaglen ddysgu arloesol i’w helpu i sicrhau bod yr hyfforddi yn eu campau perthnasol yn diwallu anghenion y cyfranogwyr ac yn lleihau’r anghydraddoldebau sy’n bodoli mewn chwaraeon.
Mae’r Rhaglen Arweinwyr Hyfforddi – cydweithrediad rhwng Chwaraeon Cymru, Sport Northern Ireland a sportscotland – wedi darparu cyfleoedd i ddysgu gan hyfforddwyr profiadol eraill o fewn y tair Gwlad Gartref, yn ogystal â llawer o arbenigwyr allanol.
Rôl Arweinydd Hyfforddi yw arwain, datblygu a dylanwadu ar sut mae hyfforddwyr, a hyfforddi, yn cael eu datblygu a’u cefnogi yn eu chwaraeon.
Mae’r Rhaglen Arweinwyr Hyfforddi wedi rhoi sylw i ystod eang o bynciau, gan gynnwys arweinyddiaeth gynhwysol, datblygu hyfforddwyr effeithiol, arwain newid, a deall eu rôl a’u dylanwad yn y system chwaraeon.
Mae 16 o arweinwyr hyfforddi wedi cofrestru ar y rhaglen, gyda chwe arweinydd o’r byd chwaraeon yng Nghymru ymhlith y criw: Rob Franklin (pêl droed), Sarah Wagstaff (pêl fasged), Graeme Antwhistle (nofio), Gareth Evans (bocsio), Holly Broad (gymnasteg) a Tim Matthews (beicio).
Mae’r rhaglen wedi bod yn weithredol ers mis Mai 2023 a hyd yma mae wedi cynnwys pedwar cwrs preswyl a thair gweminar. Bydd y cwrs preswyl olaf yn cael ei gynnal yng Nghas-gwent ganol mis Mawrth, lle bydd cyfranogwyr yn creu eu cynlluniau gweithredu eu hunain i fwrw ymlaen â hwy.
Ond ni fydd y gefnogaeth yn dod i ben yno. Bydd y grŵp presennol o gyfranogwyr yn elwa wedyn o 12 mis pellach o gefnogaeth i roi’r cynlluniau gweithredu hyn ar waith. Gallai’r gefnogaeth hon gynnwys mentora un i un, cymorth gan gymheiriaid neu fynediad at banel o arbenigwyr hyfforddi, yn dibynnu ar eu hanghenion.