Main Content CTA Title

Manteision cael cymorth diogelu gwrywaidd a benywaidd

  1. Hafan
  2. ET Rhagfyr 2023
  3. Manteision cael cymorth diogelu gwrywaidd a benywaidd

Er mwyn helpu i wneud i'w haelodau deimlo'n fwy cyfforddus i godi unrhyw bryderon ynghylch diogelu, yn ddiweddar mae Athletau Cymru wedi ei gwneud yn orfodol i bob clwb athletau yng Nghymru gael swyddog lles gwrywaidd a benywaidd. Ac mae'n gam y gallai chwaraeon eraill fod eisiau ei ystyried hefyd.

Gallai’r cam syml o gael rhywun o’u rhywedd eu hunain i siarad ag ef wneud y gwahaniaeth rhwng oedolyn neu blentyn yn teimlo’n gyfforddus i ddatgelu mater, neu beidio.

Mae Athletau Cymru wedi mabwysiadu dull dim goddefgarwch o weithredu gyda’r rheol hon, ac mae wedi cefnogi mwy na 200 o Swyddogion Lles Clybiau i gael hyfforddiant yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Wrth ganmol Athletau Cymru, dywedodd Clare Skidmore, Swyddog Datblygu Llywodraethu yn Chwaraeon Cymru: “Rydw i’n falch o rannu’r esiampl yma o arfer da gyda gweddill sector chwaraeon Cymru. Mae’n wych gweld sut mae Athletau Cymru wedi rhoi cymaint o ystyriaeth i greu amgylcheddau gwell a diwylliant lle mae pobl yn teimlo’n gyfforddus yn adnabod ac yn rhoi gwybod am ymddygiad gwael, fel ein bod ni’n atal cam-drin a niwed rhag digwydd.

“Mae cael Swyddogion Lles gwrywaidd a benywaidd mewn clybiau yn gam cadarnhaol iawn ymlaen ac mae’n rhywbeth y byddwn yn sicr yn annog clybiau chwaraeon rhywedd cymysg eraill i’w ystyried. O dan amgylchiadau lle nad yw hyn yn bosibl oherwydd maint clwb, efallai y byddai’n werth i glybiau llai ystyried sut gallent rannu eu cefnogaeth diogelu gyda chlwb lleol arall fel eu bod yn gallu pwlio eu hadnoddau gwrywaidd a benywaidd.”

Mae Athletau Cymru hefyd wedi cynyddu faint o hyfforddiant mae eu swyddogion lles yn ei gael, fel yr eglura Carl Williams, Swyddog Diogelu Arweiniol Athletau Cymru: “Yn 2020, fe gomisiynodd y pum corff rheoli athletau yn y DU Christopher Quinlan QC i gynnal adolygiad eang o’r gamp.

“Roedd ei adroddiad yn nodi nad oedd ein rhaglen flaenorol ni o hyfforddiant diogelu yn addas i’r diben, felly rydyn ni wedi ei gwneud yn orfodol i bob Swyddog Lles Clwb ddilyn cwrs ‘Diogelu mewn Athletau’ yr NSPCC i ddechrau, ac wedyn cwrs ategol ‘Amser Gwrando’ sy’n cael ei ddarparu drwy Gymdeithas Chwaraeon Cymru.

“Rydyn ni wedi cael llawer o adborth cadarnhaol gan Swyddogion Lles Clybiau a oedd wedi’u plesio gan y cwrs ychwanegol a’r ffordd roedd yn rhoi hyder, adnoddau a gwybodaeth iddyn nhw gyflawni eu rôl.”

Ychwanegodd Clare Skidmore: “Mae’r ffaith bod yr holl Swyddogion Lles mewn Clybiau yn y byd athletau yn derbyn hyfforddiant gorfodol mor drylwyr yn arfer rhagorol. Mae wir yn eu helpu i ddeall eu rôl ac ymdrin ag unrhyw ddatgeliadau.

“Mae bob amser yn galonogol gweld faint o ddyhead sydd ymhlith ein partneriaid ni sydd eisiau gwneud chwaraeon mor ddiogel â phosibl yn hytrach na gweld rôl arweinydd diogelu ddim ond yn ‘enw ar ddarn o bapur’ ac ymarfer ticio bocs. Rydw i hefyd yn meddwl bod cydweithrediad Athletau Cymru gyda Chymdeithas Chwaraeon Cymru yn rhywbeth i dynnu sylw ato a’i ddathlu.”

Gall holl bartneriaid Chwaraeon Cymru gael cymorth gyda diogelu gan Uned Amddiffyn Plant mewn Chwaraeon yr NSPCC ac Ymddiriedolaeth Ann Craft (ar gyfer diogelu oedolion). Gall partneriaid ymuno â'n Fforwm Diogelu ni hefyd sy'n cael ei hwyluso gan y ddau sefydliad ac sy'n profi i fod yn ffordd ddefnyddiol i bartneriaid rwydweithio, dysgu, cydweithio a rhannu arfer da.

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am ddiogelu, cysylltwch â Clare Skidmore, Swyddog Datblygu Llywodraethu Chwaraeon Cymru, drwy e-bostio [javascript protected email address]