Mae grŵp o hyfforddwyr o Gyrff Rheoli Cenedlaethol Cymru ar fin dod yn Ddatblygwyr Hyfforddwyr cyntaf y DU i fod yn Siartredig, a chyn bo hir bydd eu harbenigedd mewn ‘hyfforddi hyfforddwyr’ ar gael i chwaraeon eraill yng Nghymru i helpu hyfforddwyr i greu amgylcheddau llwybr a pherfformiad sy’n galluogi pobl ifanc i ffynnu.
Diolch i bartneriaeth rhwng Chwaraeon Cymru a Phrifysgol Met Caerdydd, yn ddiweddar cwblhaodd saith hyfforddwr o’r byd badminton, marchogaeth, gymnasteg, rygbi, tennis a thriathlon Raglen Datblygwyr Hyfforddwyr Llwybr dwy flynedd a fydd yn arwain at sicrhau eu bod yn ennill statws Datblygwr Hyfforddwyr Siartredig - y gydnabyddiaeth broffesiynol uchaf mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol – gan CIMSPA.
Dywedodd Sarah Walters, Pennaeth Strategaeth y System Chwaraeon yn Chwaraeon Cymru: “Mae rôl Datblygwr Hyfforddwyr yn elfen greiddiol o ddatblygu arferion hyfforddi. Rydyn ni i gyd yn gwybod bod darparu hyfforddiant gwych yn sgil ac yn hanfodol i brofiad pobl ifanc o chwaraeon. Er mwyn diwallu anghenion pobl ifanc ar lwybrau perfformiad yng Nghymru, mae angen mireinio ein sgiliau hyfforddi, ein penderfyniadau a'n hymddygiad yn fanwl.
“Er bod y Datblygwyr Hyfforddwyr a gymerodd ran yn y rhaglen yn arbenigwyr mewn chwaraeon penodol, mae eu sgiliau a'u gwybodaeth eang yn drosglwyddadwy i gefnogi chwaraeon eraill.
“Rydyn ni eisiau parhau i feithrin diwylliant o her a chefnogaeth i wella’n barhaus sut mae hyfforddwyr yn cael eu datblygu yng Nghymru. Bydd y dull cydweithredol, Datblygwr Hyfforddwyr yma o weithredu’n helpu i gefnogi hyfforddwyr llwybr ar draws yr holl chwaraeon i arbrofi, gwneud newidiadau a datblygu sut maen nhw’n darparu arfer hyfforddi gwych sy’n diwallu anghenion pobl ifanc.”
Ychwanegodd Sarah: “Mae sgyrsiau’n dechrau cael eu cynnal gyda Chyrff Rheoli Cenedlaethol ynghylch y cyfle i gynnig cefnogaeth Datblygwr Hyfforddwyr o wanwyn 2025 ymlaen i hyfforddwyr sy’n weithgar mewn amgylcheddau llwybr perfformiad.
“Rydyn ni'n dal i edrych ar sut yn union fydd hyn yn gweithio, ond mae’n ddatblygiad cyffrous a fydd, yn ein barn ni, yn helpu i ddatblygu’r grefft o hyfforddi yng Nghymru ymhellach.”
Y cyfranogwyr ar y rhaglen Datblygwr Hyfforddwyr Llwybr Perfformiad yw:
- Donal O’Halloran – Badminton Cymru
- Elinor Lightbody – Tennis Cymru
- Gruff Rees – Rygbi Caerdydd
- Jo Coombs – Gymnasteg Cymru
- Mike Castle – Tennis Cymru
- Rich Brady – Triathlon Cymru
- Stephanie Bradley – Marchogol
Os hoffech chi gael gwybod mwy, cysylltwch â [javascript protected email address] neu [javascript protected email address].