Mae Canŵio Cymru yn adlewyrchu ar haf o ferched ar y dŵr ledled Cymru, diolch i lwyddiant yr ymgyrch #ShePaddles.
Roedd #ShePaddles yn rhaglen a ddyfeisiwyd gan British Canoeing yn 2020, ond amharwyd arni gan y pandemig. Cafodd ei mabwysiadu gan Canŵio Cymru a’i chyflwyno ledled y wlad gyda llwyddiant ysgubol yn 2021 a 2022.
Wedi'i chynllunio i gael mwy o ferched i gymryd rhan mewn chwaraeon rhwyfo - canŵio, caiacio a phadlfyrddio - a'u datblygu fel selogion, swyddogion a hyfforddwyr, mae'r ymgyrch wedi taro tant gyda merched a genethod o bob oed.
Cyrhaeddodd ei phenllanw yn ôl ym mis Mai, pan gymerodd 75 o ferched – y mwyafrif ohonynt heb gwrdd â’i gilydd erioed o’r blaen – ran mewn gŵyl chwaraeon rhwyfo yng Nghanolfan Awyr Agored Genedlaethol Plas y Brenin, Eryri.
“Doedd Plas y Brenin ddim wedi cael 75 o bobl ar y dŵr ar un tro o’r blaen erioed, heb sôn am 75 o ferched,” meddai Lydia Wilford, swyddog datblygu Canŵio Cymru.
“Roedd yr adborth gawsom ni yn ddiddorol iawn. Doedd cymaint ag 80 y cant o’r merched oedd yno ddim yn adnabod unrhyw un pan wnaethon nhw gyrraedd.”
Felly beth sy'n gwneud i 75 o ferched o wahanol oedrannau fod eisiau treulio penwythnos yn ystod y gwanwyn yn tasgu o gwmpas llyn?
Efallai mai harddwch Llynnau Mymbyr a’r cyffiniau sy’n gyfrifol am hynny, neu’r awydd i deimlo’n heini, yn actif ac yn anturus, neu’r chwilfrydedd i ddysgu camp newydd efallai.
Neu efallai mai cyfuniad o'r holl bethau hynny yw’r rheswm - yn ogystal ag absenoldeb egos gwrywaidd!
“Yr hyn oedd yn ddiddorol iawn am yr ŵyl ym mis Mai oedd gweld bod cymaint o ferched yn hapus i ddod ar eu pen eu hunain oherwydd eu bod nhw’n gwybod mai dim ond merched fyddai yno,” meddai Lydia.
“Mae’n gallu gwneud i chi droi eich cefn, os ydych chi’n meddwl y byddwch chi’n cyrraedd i roi cynnig ar badlfyrddio neu gaiacio ac y byddwch chi mewn grŵp gyda bechgyn 18 oed.
“Rydyn ni'n gweld bod y merched hyn wrth eu bodd yn dod i mewn i'r gamp mewn amgylchedd ar gyfer merched yn unig. Unwaith y byddan nhw wedi magu hyder yn y gamp, maen nhw'n fwy na pharod i gymysgu.
“Rydyn ni hefyd wedi cael merched Asiaidd anhygoel, a ‘fydden nhw ddim yn gallu cymryd rhan mewn sesiynau gyda dynion.
“Felly, fe all fod yn fan cychwyn am amrywiaeth o resymau – ond does dim dwywaith pa mor bositif yw merched am gyflwyniad merched yn unig i’r gamp.”