Skip to main content

Beth fydd Cronfa Cymru Actif a Crowdfunder yn ei gefnogi?

  1. Hafan
  2. Cyllid a Chefnogaeth
  3. Beth fydd Cronfa Cymru Actif a Crowdfunder yn ei gefnogi?

Mae'r ddau grant cymunedol sydd ar gael gan Chwaraeon Cymru yn addo cefnogi gweithgarwch 'ar y cae' ac 'oddi ar y cae'.

Ond, beth mae hynny'n ei olygu mewn gwirionedd?

Bydd y canllaw byr hwn yn esbonio rhai o'r meysydd cymorth ac eitemau a allai fod yn rhan o'ch cais.

 Cronfa Cymru ActifLle i Chwaraeon: Crowdfunder
Esboniad:Grant i helpu i symud chwaraeon cymunedol ymlaen i'r lefel nesaf.   Rhoddir blaenoriaeth i geisiadau sy'n effeithio'n uniongyrchol ar gyfranogiad chwaraeon 'ar y cae'.

 
Cyfle i sefydliadau chwaraeon cymunedol godi arian ar gyfer gwaith cyfalaf ('oddi ar y cae'), gyda chefnogaeth arian cyfatebol Chwaraeon Cymru.

Bydd arian cyfatebol Chwaraeon Cymru rhwng 30% a 50% o gyfanswm targed prosiect.  Penderfynir ar yr union ganran unwaith y bydd cais wedi'i gyflwyno.

 
Beth fydd Chwaraeon Cymru yn ei gefnogi?

Fel canllaw yn unig:

  • Addysg hyfforddwyr hyd at Lefel 2
  • Uwchsgilio gwirfoddolwyr – gan gynnwys cyrsiau i ddiwallu angen a nodwyd
  • Cyrsiau dyfarnwyr/Canolwyr/Dyfarnu lle mae cyfiawnhad dros hynny
  • Offer i fwy o bobl gymryd rhan mewn chwaraeon
  • Dulliau sy'n targedu grwpiau penodol heb gynrychiolaeth ddigonol
  • Atebion arloesol i gael pobl i fod yn actif.
  • Clybiau, timau neu sefydliadau newydd sydd angen offer/adnoddau sefydlu
  • Llifoleuadau ar gyfer sesiynau hyfforddi a gemau lle bo cyfiawnhad dros hynny
  • Eitemau diwrnod y gêm sy'n sicrhau bod y gamp yn digwydd
  • Gwelliannau i feysydd chwarae/draenio meysydd chwarae.
  • Llogi lleoliad (ar gyfer timau newydd yn unig) wedi'i gapio ar 2awr/wythnos am 10 wythnos

Sefydliadau chwaraeon cymunedol sydd eisiau codi arian ar gyfer gwelliannau 'oddi ar y cae'. Er enghraifft: 

  • Ystafelloedd newid
  • Adnewyddu tai clwb
  • Gwell cyfleusterau cegin
  • Lle storio/raciau beiciau
  • Lifftiau a rampiau ar gyfer mynediad i bobl anabl
  • Paneli solar
  • Generaduron
  • Boeleri/Gwresogi
  • Ffens newydd
  • Technoleg sy'n ymwneud ag o leiaf un o flaenoriaethau'r gronfa.  Mae enghreifftiau’n cynnwys:
    - Camerâu teledu cylch cyfyng (cynaliadwyedd economaidd)
    - Camerâu/Teledu/Gliniaduron ar gyfer dadansoddi perfformiad (gwella profiad oddi ar y cae)
  • Gwefannau/systemau archebu
  • Addasiadau i feysydd parcio, llwybrau, a mannau sefyll ar gyfer mynediad i’r cyhoedd/gwylwyr
Egwyddorion/Blaenoriaethau Allweddol:

Bydd angen i geisiadau gyd-fynd ag o leiaf un o’r tair blaenoriaeth ganlynol:

  • Mynd i’r afael ag anghydraddoldebau
  • Cynaliadwyedd tymor hir
  • Arloesi

Bydd angen i geisiadau gyd-fynd ag o leiaf un o’r tair blaenoriaeth ganlynol:

 

  • Gwella'r profiad 'oddi ar y cae’
  • Darparu cynaliadwyedd economaidd
  • Ecogyfeillgar

     
Dyfarniadau Cyllid

Isafswm dyfarniad yw £300, ac uchafswm dyfarniad yw £50,000.  Dyfernir cyllid ar raddfa symudol.

  • Grant hyd at 100%: ar gyfer dyfarniadau hyd at £10,000
  • Grant hyd at 90%: ar gyfer dyfarniadau rhwng £10,001 a £25,000
  • Grant hyd at 80%: ar gyfer dyfarniadau rhwng £25,001 a £50,000

 

Cyn belled â bod ceisiadau'n cyd-fynd â meini prawf penodol, bydd Chwaraeon Cymru yn cyfateb i rhwng 30% a 50% o gyfanswm targed prosiect, hyd at uchafswm o £15,000 o arian cyfatebol.

  • 30%: Os yw prosiect yn debygol o gael cefnogaeth ar Crowdfunder.
  • 40%: Os yw prosiect yn dangos sut y mae'n bwriadu cefnogi mynd i'r afael ag anghydraddoldebau.
  • 50%: Os yw prosiect wedi'i leoli yn un o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru, fel y nodwyd gan ddata Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru.