Os ydych chi eisiau uwchraddio eich cyfleusterau presennol neu’n chwilio am leoliad newydd, mae sawl elfen a all effeithio ar ei addasrwydd ar gyfer eich clwb.
Os byddwch chi’n ymarfer gyda’r nos, gallai llifoleuadau helpu i oleuo’r ardal a galluogi i chi chwarae am gyfnodau hirach. Mae llu o fanteision ac anfanteision yn perthyn i gaeau real a thyweirch artiffisial, felly mae’n bwysig ymchwilio i’r rhain a gweld beth sydd fwyaf addas i’ch camp.
Llifoleuadau
Mae llifoleuadau’n gallu cynyddu’r defnydd o gyfleuster, yn enwedig dros fisoedd y gaeaf.
Mae gan rai chwaraeon ofynion penodol o ran lefelau goleuo (y cyfeirir atynt yn gyffredin fel lefelau ‘Lux’), er mwyn galluogi i hyfforddiant neu gemau gael eu cynnal yn ddiogel. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Sport England.
Rheoli Tiroedd a Chaeau
Os yw eich clwb chi’n ddigon ffodus i fod â’i gyfleusterau ei hun, neu os ydych chi’n llogi cyfleusterau gan y cyngor lleol, efallai eich bod yn meddwl am ddatblygu caeau newydd neu uwchraddio’r rhai sydd gennych chi eisoes er mwyn ehangu eich clwb neu gynyddu’r defnydd o’r cae.
Mae The Institute of Groundmanship yn sefydliad proffesiynol ar gyfer rheoli tiroedd. Mae’n darparu cyfleoedd hyfforddi, cynadleddau a rhaglenni dyfarnu ledled y DU. Hefyd mae’n cynnig cyngor i’w aelodau ar faterion cyflogaeth fel iechyd a diogelwch.
Ar gyfer prosiectau cymwys cysylltiedig â draenio caeau neu gaeau/mannau chwarae newydd, efallai y bydd cyllidwyr yn gofyn am gynnal arolwg cyflwr ar y tir dan sylw cyn cyflwyno unrhyw gais (sy’n cael ei alw weithiau’n Safon Ansawdd Perfformiad, neu SAP). Adroddiad cyflwr annibynnol yw hwn sy’n cael ei gynnal gan ymgynghorydd wedi’i achredu, o dan faner y Sefydliad Tirmonaeth. Bydd y SAP yn manylu ar gyflwr presennol y darn o dir dan sylw a bydd hefyd yn awgrymu natur y broblem (problemau), yn ogystal â math ac amcan-gost y gwaith adfer.
O ran buddsoddiad Chwaraeon Cymru, dim ond ar ôl y cam hwn y gellir rhoi cyfarwyddyd gwell i’r ymgeisydd am gais posibl.
Caeau Tyweirch Artiffisial
Newid neu ddatblygu cae tyweirch artiffisial?
Mae arwynebau chwarae synthetig yn parhau i fod yn ddewisiadau poblogaidd ar gyfer clybiau mewn rhai chwaraeon, yn enwedig dros fisoedd gwlyb y gaeaf.
Os ydych chi’n meddwl newid neu ddatblygu cae tyweirch artiffisial, mae’n bwysig eich bod yn darllen hwn, sy’n amlinellu dull cydweithredol sy’n cael ei fabwysiadu ledled Cymru.
Mae cyrff rheoli tair camp yng Nghymru - pêl droed, hoci a rygbi - wedi dod at ei gilydd, a hefyd Chwaraeon Cymru, i gydweithio ar brosiect i ddarparu arwynebau chwarae artiffisial gwell ledled Cymru.
Mae parthau blaenoriaeth neu lecynnau pwysig wedi cael eu henwi ar gyfer datblygu caeau artiffisial, a bydd cyllid gan Chwaraeon Cymru’n helpu i ddarparu tirlun cyfleusterau mwy addas i bwrpas. Tynnir sylw at ffrydiau cyllido eraill yn y cynllun hefyd.
Efallai nad yw eich gofynion chi’n bodloni’r rhai yn y cyfarwyddyd, ond peidiwch â phoeni. Bydd tudalennau cyllido Chwaraeon Cymru’n rhoi rhagor o wybodaeth a syniadau i chi am ble mae codi arian ar gyfer eich datblygiad.