Rhaid i glybiau fod yn greadigol er mwyn cael arian drwy’r drws. Mae eich cyfleuster chi’n ased y gallwch ei logi allan er mwyn codi incwm i’ch clwb. Meddyliwch am yr amser pan mae pawb yn eich clwb wedi mynd adref a’r gofod yn wag – a fyddai posib i eraill ei ddefnyddio?
Mae her codi arian yn gallu ymddangos yn un ddiddiwedd. Gall cynyddu’r defnydd o’ch adeilad neu eich tir helpu i ddiogelu eich dyfodol drwy ddarparu gwasanaethau ychwanegol i’r gymuned a thrwy gynhyrchu incwm.
Efallai ei fod yn ofod perffaith ar gyfer cyfarfod busnes neu barti pen blwydd plentyn? Ydi’r gofod yn ddigon mawr ar gyfer priodas? ’Fyddech chi’n gallu ei logi i grwpiau cymunedol eraill - grwpiau chwarae, clybiau chwaraeon eraill neu Sefydliad y Merched o bosib? Oes posib iddo fod yn lleoliad newydd ar gyfer dosbarthiadau nos lleol, gwersi ballet, Pilates neu ioga?
Os oes gennych chi gampfa, oes posib sefydlu ffi aelodaeth am ddod i’r gampfa yn unig? Oes posib i glwb golff glustnodi rhan o’i gwrs ar gyfer Ysgol Feithrin y Goedwig neu lwybr natur?
Oes arnoch chi angen gwella’ch bar fel eich bod yn gallu ei logi ar gyfer nosweithiau cwis a phartïon?
Creu cynllun
Mae tensiynau’n gallu codi wrth rannu un gofod ar gyfer defnydd clwb a defnydd y gymuned. Mae’n hollbwysig sefydlu gweledigaeth glir i’w chyfathrebu i’ch aelodau.
Sut mae lledaenu’r newyddion?
Gallech drefnu diwrnod agored, gwahodd grwpiau lleol, ysgolion, hyfforddwyr cadw’n heini ac unrhyw un arall fyddai’n hoffi defnyddio’r cyfleusterau lleol yn eich barn chi. Beth am gynnig paned a thaith o amgylch y cyfleusterau, gan wneud yn siŵr bod gennych chi ddigon o bobl wrth law sy’n adnabod yr adeilad yn dda ac yn gallu siarad yn hyderus am sut gellid ei ddefnyddio.
Cofiwch wneud yn siŵr bod eich enw ar restri o leoliadau lleol ar-lein. Nodwch yn glir i bobl ar eich gwefan ac ar gyfryngau cymdeithasol bod eich cyfleusterau chi ar gael i’w llogi. Os oes gennych chi ddigon o bobl yn mynd heibio i’ch adeilad, argraffwch faner i’w gosod arno.
Trefniadau archebu
Mae trefniadau archebu’n bwysig oherwydd bydd y ddwy ochr eisiau sicrhau bod amodau’r llogi wedi’u datgan yn glir. Dylid cytuno i’r rhain a’u llofnodi. Wrth lunio cytundeb, gofynnwch am gyngor cyfreithiol. Wedi’r cwbl, mae’n gontract cyfreithiol.
Wrth lunio cytundebau cyfreithiol, rhaid i chi sicrhau bod eich statws cyfreithiol fel clwb yn caniatáu i chi wneud hyn. Mae gennym ragor o wybodaeth yma.
Iechyd a Diogelwch
Os ydi eich gofod yn cael ei logi gan grŵp meithrin lleol neu Sefydliad y Merched, rhaid i chi wneud yn siŵr bod yr eiddo’n ddiogel ar gyfer y defnydd ohono. Darllenwch ein tudalennau iechyd a diogelwch.
Yswiriant
Gwnewch yn siŵr bod eich polisi yswiriant yn cynnwys grwpiau o’r tu allan yn llogi eich cyfleusterau. Rhaid i chi gael cadarnhad ysgrifenedig gan unrhyw un sy’n llogi bod ganddo yswiriant atebolrwydd cyhoeddus ar gyfer y gweithgareddau sy’n cael eu cynnal yn y gofod sy’n cael ei logi.
Os yw cyfleusterau’r clwb yn cael eu defnyddio gan unigolyn preifat ar gyfer parti, dylai wirio gydag yswirwyr ei dŷ bod yr yswiriant atebolrwydd cyhoeddus yn ymestyn i gynnwys trefnu digwyddiad o’r fath.
Cofiwch ofyn am gyngor gan arbenigwr bob amser.
Diogelu
Dylai unrhyw grwpiau sy’n llogi eich cyfleusterau ddarparu cadarnhad ysgrifenedig hefyd bod ganddynt bolisi amddiffyn plant ac oedolion a’u bod yn defnyddio’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein hadran Ddiogelu.