Mae llawer i’w ystyried pan rydych chi’n chwilio am gyfleuster. Felly, er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn dod o hyd i ddarpariaeth addas ar gyfer eich clwb, dyma 12 pwynt y dylech eu hystyried cyn rhoi eich llofnod ar y llinell:
- Gofyn i ysgolion, eglwysi, canolfannau cymunedol lleol oes posib i chi logi gofod? Neu ofyn i’r cyngor lleol am gaeau chwarae neu barciau? Efallai y bydd prifysgolion, colegau neu glybiau cymunedol mwy’n gallu helpu hefyd.
- Os ydych chi’n chwilio am bencadlys tu ôl i’r llenni, mae Bas Data Eiddo Llywodraeth Cymruyn darparu gwybodaeth am swyddfeydd, gofod diwydiannol neu warws a thir masnachol.
- Ydi’r cyfleuster y maint iawn? Cofiwch, mae manylion yn cael eu hargymell ar gyfer gwahanol chwaraeon a grwpiau oedran. Mae’n werth holi eich Corff Rheoli Cenedlaethol!
- Faint gewch chi ei wario? Bydd rhaid i chi greu digon o incwm i dalu’r gost – felly gwnewch yn siŵr eich bod yn realistig!
- Lleoliad, lleoliad, lleoliad – ydych chi’n rhy agos at glwb arall sy’n darparu’r un cyfleoedd? Ydi hi’n hawdd cyrraedd y lleoliad ar droed, ar drafnidiaeth gyhoeddus neu mewn car?
- A yw’n addas ac yn hygyrch i bobl anabl? A oes cyfleusterau newid ar wahân i ddynion a merched? Gall ystafelloedd newid i deuluoedd ei gwneud yn haws i deuluoedd ifanc ddod i’ch clwb. Ydych chi angen ystyried ystafell weddïo? Gwnewch yn siŵr bod y cyfleuster yn diwallu anghenion eich aelodau a darpar aelodau.
- Oes ganddo le diogel ar gyfer storio offer?
- Oes gennych chi yswiriant digonol? Weithiau mae aelodaeth o Gorff Rheoli Cenedlaethol yn cynnwys hyn, ond rhaid i chi holi bob amser.
- Edrychwch ar y telerau defnydd. Oes raid i chi gynnal a chadw’r lleoliad?
- Ydi’r brydles yn briodol ac yn deg?
- A yw’n syniad da holi cynghorwyr proffesiynol er mwyn gallu adfer cymaint o TAW â phosib?
- Os ydych chi’n chwilio am rywle i’w reoli, a yw’r cyfleuster ar gael i’w logi allan i grwpiau cymunedol ar gyfer partïon, cyfarfodydd, cynadleddau neu briodasau?