Ydych chi’n ystyried rheoli adeilad neu ddarn o dir gyda’ch clwb chwaraeon? Os felly, mae’n werth gwneud paned o de a darllen y pecyn defnyddiol sydd wedi cael ei lunio gan Fields in Trust.
Diddordeb o hyd ar ôl darllen y pecyn? Iawn, mae’n amser cysylltu â syrfëwr siartredig felly. Os yw’n bwll nofio cymunedol, neuadd gymunedol, adeilad clwb neu ddarn o dir, rhaid i chi wybod pa waith sydd angen ei wneud a faint fydd hynny’n ei gostio cyn i chi wneud unrhyw benderfyniadau. Ydi’r to mewn cyflwr da? Oes tamprwydd? Oes unrhyw broblemau gyda’r tir? Oes tirlithriad?
Mae yswiriant atebolrwydd cyhoeddus yn flaenoriaeth fawr hefyd os ydych chi’n rhedeg eich adeilad eich hun. Rydyn ni wedi ysgrifennu am yswiriant ar y safle yma ond cofiwch ofyn am gyngor gan unigolyn proffesiynol bob amser.