Talu wrth ennill (PAYE) yw’r system mae CThEM yn ei defnyddio i gasglu treth incwm a chyfraniadau yswiriant gwladol gan weithwyr wrth iddynt ennill cyflog. Bydd dewis sut i redeg eich cyflogres er mwyn sicrhau bod y system PAYE yn cael ei gweithredu’n gywir yn benderfyniad pwysig i’ch clwb.
Gan fod rheolau’r gyflogres yn eithaf cymhleth, a chan fod pob cyflogwr bron yn gorfod ffeilio ffurflenni cyflogres ar-lein, mae llawer o gyflogresi’n cael eu rheoli gan raglenni meddalwedd cyflogres erbyn hyn.
Dyma’r dewisiadau i chi:
- Gweithredu’n fewnol gan ddefnyddio meddalwedd cyfrifiadurol masnachol
- Gweithredu’n fewnol gan ddefnyddio meddalwedd am ddim CThEM (ar gyfer llai na 10 o weithwyr)
- Rhoi contract allanol i swyddfa cyflogres/cwmni cyfrifo i ofalu am drefniadau eich cyflogres
Os hoffech gael rhagor o gyngor am y gyflogres a meddalwedd, mae gan CThEM lawer o wybodaeth.
Pan fyddwch yn cofrestru’r cynllun PAYE gyda CThEM (mae posib gwneud hynny ar-lein), byddwch yn cael cyfeirnod Treth Cyflogwr unigryw a hefyd Pecyn Cyflogwr Newydd sy’n cynnwys help a chyngor.
Ydw i’n gallu talu i rywun fel gweithiwr Hunangyflogedig heb dynnu treth?
Un o’r pethau pwysicaf i’w hystyried yw a yw’r unigolyn yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig. Dyma faes y mae clybiau’n gwneud camgymeriadau yn ei gylch yn aml, yn enwedig pan maent yn talu i hyfforddwyr a gweithwyr achlysurol, neu’n talu taliadau cydnabyddiaeth. Fel rheol, cyfrifoldeb y cyflogwr yw gweithredu’n gywir. Felly, os oes gennych chi unrhyw amheuon, gofynnwch am gyngor proffesiynol neu cysylltwch â CThEM.