Mae gan bob cyflogwr sydd ag o leiaf un aelod o staff gyfrifoldeb yn awr am roi’r cyflogeion hynny sy’n bodloni rhai meini prawf yn rhan o gynllun pensiwn gweithle a chyfrannu tuag ato. Mae hyn yn golygu bod rhaid i bob cyflogwr sefydlu cynllun pensiwn gweithle a chofrestru ei gyflogeion yn rhan ohono’n awtomatig.
Mae'r rheolau newydd hyn yn faich ychwanegol ar glybiau, nid dim ond o ran cost, ond hefyd o ran amser, ond mae’n hanfodol bod clybiau’n cydymffurfio oherwydd mae dirwyon mawr os byddant yn methu.
Os oes arnoch angen rhagor o help, mae gan y Rheoleiddiwr Pensiynau ganllaw cam wrth gam i roi arweiniad ar gofrestru awtomatig.