Mae cael y cyfleusterau a’r offer priodol yn allweddol er mwyn denu aelodau newydd a sicrhau bod anghenion yr aelodau presennol yn parhau i gael eu bodloni.
Mae hynny’n golygu bod y cyfleusterau a’r offer yn debygol o fod yn rhan bwysig o strategaeth y clwb - felly gwnewch yn siŵr bod y costau’n cael eu hystyried yn eich cynlluniau ariannol tymor hir.
Yn aml iawn mae cyfleusterau’n cael eu gosod ar les neu am rent ac, yn yr achos yma, mae posib rheoli’r gwariant drwy gynnwys y costau hyn yn y gyllideb flynyddol a’r rhagolwg llif arian.
Efallai y bydd adegau pan fydd eich clwb yn ystyried prynu eiddo neu offer. Mae pryniant cyfalaf o’r fath yn creu lefel uwch o risg a dylid meddwl yn ofalus iawn am unrhyw bryniant cyn gwneud penderfyniad, i sicrhau bod pob risg wedi cael ei hystyried ac na fydd y pryniant yn peryglu sefydlogrwydd ariannol y clwb.
Gall adolygiad o gyfleusterau ac offer y clwb arwain at baratoi Cynllun Buddsoddiad Cyfalaf.
Oherwydd y risg a’r cymhlethdod sy’n gysylltiedig â phrosiectau buddsoddiad cyfalaf, argymhellir bod y clwb yn gofyn am gyngor proffesiynol.