Weithiau bydd pethau yn mynd o chwith gyda gwirfoddolwyr. Efallai nad ydynt yn ddibynadwy neu efallai nad ydynt fel petaent yn gallu ymwneud â’r rheini sydd o’u cwmpas. Mewn gwirionedd, efallai mai gwraidd y broblem yw’r bobl eu hunain, y bobl o’u hamgylch neu eu bod heb gael eu hyfforddi’n iawn. Fel arfer nid yw anwybyddu’r sefyllfa yn helpu’r clwb na’r gwirfoddolwr chwaith. Gall sgyrsiau gonest sydd wedi’u paratoi’n dda fod o fudd i bawb.
Mae Support Cambridgeshire, mewn cydweithrediad â’r Hyb Gwirfoddoli wedi paratoi canllaw defnyddiol ar gyfer Delio â Gwirfoddolwyr Anodd. Hefyd, er iddynt gael eu datblygu ar gyfer yr amgylchedd cyflogedig, mae gan ACAS ystod o ddeunyddiau ar y testun Sgyrsiau Heriol a Sut i’w Rheoli. Mae’r rhain yn cynnwys canllaw yn ogystal â thabl cam wrth gam ar gyfer rheoli sgyrsiau heriol.
Weithiau nid y gwirfoddolwyr sy’n achosi anawsterau. Gall hyfforddwyr deimlo mai rhieni’r plant y maent yn eu hyfforddi sy’n peri’r her fwyaf. Gall amlinellu disgwyliadau’r clwb o rieni drwy God Ymddygiad Rhieni fod yn ddefnyddiol. Gallai hyn gynnwys parchu chwaraewyr a swyddogion neu fod yn brydlon wrth gasglu eu plant ar ôl digwyddiad.
Os oes athrawon yn rhan yn y clwb, gallant hwy o bosibl fod yn ffynonellau defnyddiol o gyngor ar gyfer delio â rhieni anodd. Os bydd popeth arall yn methu efallai y dowch o hyd i rai sylwadau defnyddiol (a doniol) yma.