Main Content CTA Title

Diogelu’r clwb a’i Wirfoddolwyr

Er mwyn i glybiau ffynnu, mae’n bwysig diogelu eu buddiannau, yn ogystal â buddiannau’r bobl sy’n rhoi o’u hamser i sicrhau bod pethau’n rhedeg yn esmwyth. Mae hyn yn golygu sicrhau bod y sylfeini yn eu lle.   

Felly edrychwch ar y pum maes canlynol a gofynnwch i chi eich hun ydi eich clwb chi’n gwneud digon ar hyn o bryd? Mae dolenni at ragor o wybodaeth i’ch helpu chi ar gael.

 

Diogelu

  • Ydi pawb yn eich clwb chi’n ymwybodol o’ch polisi diogelu?
  • Ydi pawb yn gwybod pwy yw Swyddog Diogelu’r Sefydliad?
  • Ydych chi wedi nodi pa swyddi sydd angen archwiliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ac a ydyn nhw wedi cael eu cynnal?

 

Diogelu Data

  • Pa wybodaeth sydd arnoch chi angen ei chadw am y bobl sy’n ymwneud â’ch sefydliad chi?
  • Pwy sy’n gyfrifol am sicrhau ei bod yn ddiweddar?
  • Pwy sy’n gallu ei gweld ac ar gyfer beth y gellir ei defnyddio?

 

Yswiriant

  • Oes gan y sefydliad yswiriant priodol ar gyfer yr holl weithgareddau mae’n eu cynnal?
  • Ydi’r yswiriant yn cynnwys yr holl unigolion sy’n gwirfoddoli yn y sefydliad?

 

Rheoli Risg ac Iechyd a Diogelwch

  • Ydi pobl yn deall eu rôl mewn rheoli risg yn y sefydliad?
  • Oes asesiadau risg wedi cael eu cynnal ar gyfer y gweithgareddau mae’r sefydliad yn eu cynnal?
  • Ydi’r asesiadau risg wedi cael eu rhannu gyda’r bobl briodol?

 

Talu Costau

  • Oes gan y sefydliad bolisi ar gyfer talu costau ar eu colled i wirfoddolwyr?
  • Os oes, ydi’r gwirfoddolwyr yn gwybod beth sydd raid iddyn nhw ei wneud i hawlio’r costau yma?