Skip to main content

Cadw Pobl

Ar ôl treulio amser ac ymdrech yn recriwtio gwirfoddolwyr newydd, rydych chi eisiau gwneud popeth o fewn eich gallu i’w cael i ddod yn ôl, wythnos ar ôl wythnos.

A dydi hynny ddim yn anodd mewn gwirionedd, dim ond bod pobl yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi, a’u bod yn rhan o’r clwb.  

Dyma gyngor doeth i chi ddechrau arni:

Creu Argraff Dda o’r Dechrau

Meddyliwch am sut rydych chi’n cyflwyno wynebau newydd yn y clwb. Oes gennych chi broses groesawu yn ei lle ar gyfer aelodau a gwirfoddolwyr newydd? Ydych chi’n rhannu Llawlyfr Clwb i bawb? Ydych chi’n gwneud i bobl deimlo bod croeso iddyn nhw?

Gwneud i Bobl Deimlo’n Gyfforddus

Croesawch bobl i’r clwb yn araf bach a gwneud iddyn nhw deimlo’n rhan o bethau. Efallai y byddai’r gwirfoddolwyr yn gwerthfawrogi rhywfaint o fonitro hefyd. Gofynnwch i un o’ch gwirfoddolwyr mwy profiadol ofalu am y gwirfoddolwr newydd am yr wythnosaf cyntaf, fel ei fod yn dysgu’n gynt.    

Holi Sut Mae Pethau’n Mynd

Gall fod yn anodd dod o hyd i amser i eistedd i lawr yn rheolaidd a siarad gyda’ch gwirfoddolwyr ond dylech geisio eu cyfarfod ar eu pen eu hunain unwaith y flwyddyn o leiaf. Bydd hyn yn eich helpu chi i gael gwybod y canlynol:

  • a ydyn nhw angen unrhyw gefnogaeth neu hyfforddiant ychwanegol
  • a ydyn nhw eisiau newid rôl
  • a ydyn nhw eisiau mwy neu lai o gyfrifoldeb
  • oes ganddyn nhw ddiddordeb mewn rhannu rôl gyda gwirfoddolwr arall
  • sut maen nhw’n teimlo am sut mae’r clwb yn rheoli ei wirfoddolwyr

Cyfathrebu’n Glir Gyda’ch Tîm

Weithiau mae’n hawdd esgeuluso gwirfoddolwyr, chwaraewyr a rhieni wrth wneud penderfyniadau pwysig am eich clwb. Rhowch yr wybodaeth ddiweddaraf i bawb am bolisïau a datblygiadau a all effeithio arnyn nhw. Ystyriwch wneud y canlynol:

  • Cynnal briffiau
  • Cyfathrebu ar gyfryngau cymdeithasol e.e. drwy grŵp preifat ar Facebook
  • Cynnwys adrannau yn eich cylchlythyr yn benodol ar gyfer gwirfoddolwyr, chwaraewyr, rhieni a hyfforddwyr

 

Amlinellu Ymrwymiadau gyda Thymor Gwasanaethu

Gall meddwl am gymryd rôl ar bwyllgor ymddangos yn her i bobl. Rydyn ni’n byw mewn byd lle mae pawb yn ymddangos mor brysur. Felly, i helpu i gadw aelodau eich pwyllgor a’ch cynorthwywyr, gallai cynnwys tymor gwasanaethu ar gyfer rôl fod yn syniad da.

Bydd hyn yn dangos yn glir i’ch gwirfoddolwyr hyd eu hymrwymiad. Gallai tymor o flwyddyn i’w adnewyddu ym mhob cyfarfod cyffredinol blynyddol fod yn opsiwn atyniadol, am nad yw’n ymrwymiad hir iawn.   

Beth am i chi holi rhai o’ch gwirfoddolwyr i weld a ydyn nhw’n teimlo y byddai hyn yn gweithio yn eich clwb chi?

Gwobrwyo a Chydnabod Eich Gwirfoddolwyr

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cydnabod eich gwirfoddolwyr ac yn gwobrwyo eu gwaith caled. Mae gwirfoddolwyr yn benodol yn gallu gweithio’n dawel heb i neb sylwi arnyn nhw. Ond dyma asgwrn cefn clybiau chwaraeon – hebddyn nhw ni fyddai’r rhan fwyaf o glybiau’n gallu goroesi. Maen nhw’n eithriadol werthfawr ac yn haeddu canmoliaeth frwd a diolch, felly mae’n hanfodol bod gwirfoddolwyr yn teimlo bod eu rôl a’u gweithredoedd yn bwysig ac yn cael eu gwerthfawrogi.