Fe sylweddolodd y brandiau corfforaethol mawr yn fuan iawn y gallent hybu eu nwyddau a’u gwasanaethau ar gyfryngau cymdeithasol. Fe all clybiau a sefydliadau chwaraeon wneud yr un peth!
Gydag ychydig o waith, bydd posib i chi ddechrau arni ar unwaith, ac mae am ddim hefyd!
Siaradwch gyda’r math o bobl rydych chi eisiau eu cyrraedd i gael gwybod pa sianelau cyfryngau cymdeithasol maent yn eu defnyddio. Er enghraifft, does dim diben buddsoddi llawer o amser ac ymdrech mewn sefydlu cyfrif Instagram os nad yw eich aelodau a’ch darpar aelodau’n edrych arno.
Cofiwch gymryd rhan yn y sgyrsiau ar gyfryngau cymdeithasol gyda’r rhai all eich helpu chi i godi eich proffil – mae dilyn eich Corff Rheoli Cenedlaethol ac ysgolion lleol yn fan cychwyn da.
Gall Cyfryngau Cymdeithasol helpu gyda’r canlynol:
- Dweud wrth bobl am sesiynau a chyfleoedd
- Rhoi’r wybodaeth a’r newyddion diweddaraf i bobl - hyfforddiant wedi’i ganslo, dosbarthiadau newydd ac ati
- Hybu eich clwb ymhlith aelodau newydd posib
- Yr aelodau’n dod i adnabod ei gilydd, gan annog awyrgylch cymdeithasol a chyfeillgar yn eich clwb
Dyma rai adnoddau cyfryngau cymdeithasol poblogaidd:
Mae hwn yn gyfrwng grêt i feithrin cyfeillgarwch ymhlith aelodau eich clwb ac i rannu manylion am ddigwyddiadau a helpu aelodau newydd i deimlo bod croeso iddynt. Cewch rannu lluniau a gofyn cwestiynau i’ch aelodau i annog sgwrsio. Gall weithredu yn lle gwefan hefyd efallai, gyda gwybodaeth fel manylion cyswllt ar gael i’w gweld dro ar ôl tro.
Mae GBSport yn awgrymu eich bod yn sefydlu grŵp ar Facebook ac NID tudalen cefnogwyr.
- Mae Twitter yn gyflym ac yn syml i’w ddefnyddio. Dim ond 140 llythyren sydd ar gael i gyfansoddi neges ac felly rhaid bod yn gryno ac yn fachog i gyfleu’r hyn sydd gennych i’w ddweud. Mae posib rhoi diweddariadau mewn amser real, fel sgoriau diweddaraf neu gemau wedi’u canslo. Meddyliwch am y geiriau allweddol y bydd pobl yn chwilio amdanynt a gwnewch yn siŵr bod y rhain i’w gweld ar eich proffil ar twitter ac yn eich negeseuon trydar.
- Mae Youtube yn llwyfan ar gyfer rhannu cynnwys fideos. Mae’n ffordd grêt o arddangos gweithgareddau eich clwb. Gellir edrych arno ar ffonau clyfar, teledu clyfar a thabledi ac felly mae’r mynediad yn hwylus. Does dim angen offer ffilmio drud chwaith. Defnyddiwch eich ffôn symudol neu dabled i ffilmio. Mae apiau y gallwch chi eu lawrlwytho i helpu gyda golygu, fel ei fod yn edrych yn broffesiynol.
- Instagram – mae’r gynulleidfa’n ehangu’n gyflym, yn enwedig ymhlith pobl iau. Mae’n opsiwn da os ydych chi eisiau rhannu beth mae eich clwb yn ei wneud drwy gyfres o luniau. Gallwch ddefnyddio apiau fel afterlight i wneud i’ch lluniau edrych yn fwy proffesiynol.
Dyma’r adnoddau eraill sydd ar gael am ddim:
- Blogio – dyddiadur neu gofnod ar-lein. Gallech ofyn i aelod o’ch clwb ysgrifennu blog am ei hyfforddiant. Mae’r safleoedd blogio sydd ar gael yn cynnwys Blogger, Wordpress, Tumblr.
- Pinterest – adnodd darganfod gweledol sy’n prysur ehangu, yn cael ei ddefnyddio i rannu lluniau ysbrydoledig
- Flickr – ar gyfer rheoli a rhannu lluniau ar-lein
- Teamer - ei sefydlu i’ch helpu chi i drefnu pethau ac i helpu gyda gweinyddu ar gyfer eich chwaraewyr a’r tîm
- Hootsuite a Tweetdeck – er mwyn trefnu gweithgareddau
Cofiwch fod yn gyson
Cyn neidio ar y cyfryngau cymdeithasol, meddyliwch am eich enw ar y cyfryngau cymdeithasol – sef eich enw fel defnyddiwr ar Facebook, Twitter, Instagram ac ati.
Os yw enw eich clwb chi braidd yn hir, bydd arnoch angen rhywbeth byrrach, ond ceisiwch ei wneud yn debyg,
A dyma’r peth pwysig - defnyddiwch yr un enw ar yr holl lwyfannau cyfryngau cymdeithasol, i’w gwneud yn haws i bobl ddechrau eich dilyn chi. Mae hefyd yn haws i bawb gofio pwy ydych chi wedyn.
Dyweder mai Sgwba Pen-y-bont ar Ogwr / Bridgend Scuba yw eich clwb chi. Dyma sut byddai’n edrych:
Twitter: @bridgendscuba
Instagram: @bridgendscuba
Facebook: @bridgendscuba
Gwnewch yn siŵr bod eich llun proffil yr un fath hefyd fel bod posib eich adnabod chi’n syth ar y gwahanol gyfryngau.
Rhagor o Wybodaeth
Darllenwch fwy am gadw’n ddiogel ar-lein ac am lunio polisi cyfryngau cymdeithasol (links to pages within this section)