Skip to main content

Sylw gan y Cyfryngau

Mae’n bwysig ein bod yn hybu beth rydym yn ei wneud ar y cyfryngau. Mae hyn yn rhoi gwybod i bobl am ein clwb.                 

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd gan bapurau newydd lleol, y radio a’r teledu hyd yn oed o bosib, ddiddordeb yn eich stori.                            

Dyma gyngor doeth ar gyfer hawlio’r penawdau:        

  • Gwnewch eich gwaith cartref - cysylltwch â’r cyfryngau lleol ymlaen llaw a gofyn am gyfeiriad e-bost a holi am eu dyddiad cau
  • Byddwchmewnsefyllfawellosydychyngwybodpagyfryngaulleolsy’nrhoisylwi’chardal chi,ondcofiwchfeddwlamycanlynol:
    • Eich papurau newydd lleol
    • Eich gorsafoedd radio lleol
    • Eich newyddion ar-lein lleol
  • Casglwch y cyfeiriadau e-bost yn rhestr ddosbarthu bersonol ac wedyn ei storio’n ddiogel ar gyfer ei defnyddio eto.
  • Mae’r cyfryngau’n hoffi derbyn datganiad i’r wasg – yn sylfaenol, dyma eich stori newyddion chi gyda’ch manylion cyswllt chi ar y gwaelod. Mae canllaw ar gyfer ysgrifennu datganiad i’r wasg ar gael yma.
  • Pan fyddwch yn anfon eich datganiad i’r wasg ar e-bost, rhowch yr holl gyfeiriadau e-bost yn y bocs BCC a gludo’r datganiad i’r wasg yn uniongyrchol i gorff yr e-bost. Trwy wneud hynny, mae eich datganiad i’r wasg yn ymddangos ar unwaith ar sgrin y newyddiadurwr ac yn hawdd ei ddarllen.
  • Cofiwch atodi llun o safon uchel - mae lluniau’n gallu gwella eich siawns o gael cyhoeddusrwydd yn fawr. Gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi enwau pawb sydd yn y llun ac yn datgan yn glir pwy yw pawb, oherwydd bydd yn cael ei ddefnyddio fel capsiwn. Mae’n bwysig bod unrhyw un sy’n mynd i gael tynnu ei lun (mae hyn yn berthnasol i ffilmio hefyd) wedi llofnodi ffurflen caniatâd i dynnu lluniau.
  • Os byddwch yn cynnwys lluniau, peidiwch ag atodi gormod na chynnwys ffeiliau sy’n faint rhy fawr. Mae hyn yn gallu arafu system e-bost y derbynnydd.
  • Os ydych chi eisiau cael sylw darlledu, rhowch wybod iddyn nhw pwy fyddai’n dda i’w cyfweld. Cofiwch gadw unrhyw siaradwyr Cymraeg mewn cof - mae hyn yn ddefnyddiol iawn ar gyfer S4C, BBC Radio Cymru a chyfryngau Cymraeg eraill.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod ar gael ar gyfer cyfweliadau neu i roi dyfyniad sydyn.
  • Cofiwch gynnwys eich manylion cyswllt - mae hyn yn hanfodol fel bod y cyfryngau’n gallu cysylltu â chi’n uniongyrchol.

Rhagor o Help

Mae Chwaraeon Cymru wedi creu pecyn adnoddau i’ch helpu chi i hybu eich clwb. Mae’n cynnwys llawer o wybodaeth ddefnyddiol, fel esiamplau o ddatganiadau i’r wasg a sut mae ysgrifennu at eich AS.