Cyfle i ennill £100 i’ch clwb
Bob diwrnod bob wythnos, mae gwirfoddolwyr mewn clybiau a gweithgareddau chwaraeon ledled Cymru’n goresgyn amrywiaeth o heriau er mwyn sicrhau bod eu clwb yn ffynnu a bod pobl yn cael bod yn egnïol.
Mae amrywiaeth o heriau – o gyllid i gyfleusterau, pobl i hyrwyddo – yn profi rôl gwirfoddolwyr ledled Cymru.
Mae gennym ni lawer o ‘Eich Straeon Chi’ ar wefan Atebion Clwb, sydd wedi cael eu rhoi at ei gilydd er mwyn cyflwyno cipolwg o’r atebion mae clybiau wedi’u defnyddio i’w helpu i ddatblygu.
Ond rydyn ni eisiau mwy o enghreifftiau. A phwy well i adrodd y stori na’r gwirfoddolwyr eu hunain?
Gan ddefnyddio un o adrannau Atebion Clwb (cyllid clwb, cyfleusterau, rheoli eich clwb, pobl yn eich clwb, hyrwyddo eich clwb), dywedwch wrthym ni am her rydych chi wedi’i hwynebu a sut rydych chi wedi ei goresgyn.
Ac fe allwch chi fod yn greadigol.
Gwnewch ffilm ar eich ffôn neu eich dyfais dabled, cofnodwch flog sain, ysgrifennwch stori ... chi sydd i ddewis.
Rydyn ni eisiau i’r cynnwys fod yn ddifyr, felly cadwch at funud neu ddau os ydych chi’n creu ffilm.
Dyma rai pethau i’w hystyried:
- Beth oedd y broblem neu’r mater dan sylw?
- Beth wnaethoch chi?
- Beth sydd wedi digwydd o ganlyniad?
- Beth ydych chi wedi’i ddysgu?
- Pa gyngor neu awgrymiadau fyddech chi’n eu cynnig i eraill?
Os byddwn yn cofnodi’r stori ar wefan Atebion Clwb, byddwn yn rhoi £100 i’ch clwb.
Does dim cyfyngiad ar y nifer o straeon y gallwch chi eu cyflwyno a bydd panel Atebion Clwb yn penderfynu pa rai sy’n mynd ar-lein.
Bydd arnoch angen caniatâd pwyllgor y clwb neu arweinydd y gweithgaredd er mwyn i ni allu defnyddio’r stori.
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â [javascript protected email address]