Skip to main content

Sut Mae Pwyllgor yn Gweithio

Dylai pwyllgor weithredu fel tîm, gan ddefnyddio sgiliau a thalentau pob aelod unigol a gweithio tuag at amcanion cyffredin er mwyn sicrhau bod y clwb yn ffynnu.

Dylai aelodau effeithiol o bwyllgor fod â’r canlynol:

  • Ymrwymiad i’r clwb
  • Digon o amser i’w roi
  • Dealltwriaeth o rôl y pwyllgor a’u rôl arno
  • Sgiliau arwain a pharodrwydd i dderbyn cyfrifoldeb
  • Sgiliau gwrando
  • Gallu defnyddio technoleg i gyfathrebu ag aelodau

Mae’r tasgau penodol y mae’n ofynnol i aelodau pwyllgor eu cwblhau’n amrywio o glwb i glwb, yn unol â chynllun y clwb a chryfderau ei wirfoddolwyr.               

Mae’n bwysig bod y pwyllgor yn cynnwys pobl sydd ag ystod o sgiliau ac arbenigedd i gefnogi’r ystod eang o anghenion datblygu a llywodraethu yn y clwb.