Mae bwrdd yn gallu defnyddio pwyllgorau, sy’n cael eu galw’n is-bwyllgorau yn aml (yn enwedig os mai pwyllgor yw enw’r prif fwrdd), i ddelio â materion unigol neu angen parhaus.
Ffurfio is-bwyllgorau
Os bydd angen neu fater yn codi fel mater unigol, gellir ffurfio pwyllgor neu is-bwyllgor ar sail ad hoc, er enghraifft, i roi sylw i faterion parhaus, fel cyllid neu dwf y clwb.
Y peth pwysig i’w gofio yw bod rhaid i’ch sefydliad, er mwyn ffurfio is-bwyllgorau, fod â’r ddarpariaeth hon wedi’i hamlinellu yn ei ddogfen reoli.
Yn ddelfrydol, ni fydd eich dogfen lywodraethu yn dweud yn benodol pa is-bwyllgorau sydd gennych chi. Byddai hwn yn ymrwymiad caeth iawn ac efallai y byddwch yn teimlo bod is-bwyllgor a oedd yn ddefnyddiol ac yn briodol 10 mlynedd yn ôl yn gwbl ddiangen nawr.
Yn hytrach, dylai’r ddogfen reoli alluogi i chi ffurfio is-bwyllgorau fel mae’r sefydliad yn gweld yn dda.
Sut mae eich is-bwyllgorau’n cael eu llywodraethu?
Yn union fel pwyllgorau, dylai pob is-bwyllgor gael cylch gorchwyl sy’n amlinellu’r canlynol:
- Ei bwrpas
- Sut a pham y cafodd ei ffurfio
- Sut mae aelodau’r is-bwyllgor yn cael eu dewis
- Sut mae’r is-bwyllgor yn gweithio
- Sut mae’n argymell mentrau i’r bwrdd
- Pa mor aml mae’r angen yn cael ei adolygu
- Pa mor aml mae’n cyfarfod
Gwelir enghreifftiau o gylch gorchwyl is-bwyllgorau ar sportandrecreation.org.