Main Content CTA Title

Dogfen Lywodraethu

Unwaith bydd gan eich clwb enw, a phawb yn deall ei bwrpas a’i statws cyfreithiol wedi’i gytuno, nawr mae arnoch angen dogfen lywodraethu i ffurfioli’r penderfyniadau yma. Yr enw ar y ddogfen yma yw cyfansoddiad.

Mae’n helpu i sicrhau bod eich clwb yn cael ei redeg yn esmwyth ac yn briodol. Mae pob clwb angen un.

Dylai gynnwys y canlynol:

  • Yr amcanion i’ch clwb (e.e. beth rydych chi eisiau ei wneud neu ei ddarparu i’ch aelodau)
  • Y gwahanol ffurfiau ar aelodaeth (e.e. oedolyn, plentyn, cymdeithasol) a’r ffioedd tanysgrifio o bosib
  • Y rheolau y bydd eich clwb yn cadw atynt wrth weithredu
  • Sut mae materion y clwb i gael eu rheoli (e.e. gan swyddogion a phwyllgor)
  • Sut mae’r aelodau’n rheoli’r clwb, drwy gyfarfod cyffredinol blynyddol fel rheol.

Mae cyfansoddiadau’n gallu bod yn ddogfennau hir a chymhleth, ond peidiwch â phoeni, mae digon o dempledi ar gael i’ch helpu ac i’ch arwain i’r cyfeiriad iawn.

Byddwch yn ofalus er hynny rhag dim ond mabwysiadu templed parod. Mae’n bwysig cynnwys pwyntiau sy’n briodol ac yn berthnasol ym marn eich clwb chi.