Main Content CTA Title

Cynllunio

Mae’n amser dechrau cynllunio! Mae ysgrifennu cynllun strategol, busnes a gweithredol ar gyfer clwb chwaraeon yn eithriadol bwysig oherwydd: ‘os byddwch yn methu cynllunio, byddwch yn cynllunio i fethu’.

Os ydych chi eisiau i’ch clwb fod yn llwyddiant, nawr yw’r amser i gynllunio ymlaen ar gyfer y dyfodol. O amlinellu nodau ac amcanion ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol i sicrhau bod adnoddau’n cael eu defnyddio’n briodol, mae cynllunio’n ffordd wych o adolygu eich gweithrediadau presennol a gweld beth sydd angen ei wella – drwy wneud hyn, byddwch yn gallu gweld eich cynnydd.   

Ewch ati i bori drwy ein hadrannau cyfarwyddyd penodol, lawrlwytho dogfennau templed neu gysylltu ([javascript protected email address]) â’n tîm ni heddiw.