Mae nifer o gynlluniau achredu’n bodoli sy’n cael eu rheoli gan Gyrff Rheoli Cenedlaethol a thimau Datblygu Chwaraeon Awdurdodau Lleol.
Mae cynlluniau achredu’n sicrhau bod clybiau’n gweithredu gan gadw at gyfres o safonau gofynnol. Hefyd maent yn dangos bod clwb yn darparu amgylchedd sy’n diogelu lles ei aelodau ac yn annog pawb i fwynhau chwaraeon a dal ati i gymryd rhan.
Mae’n gallu helpu rhieni a gofalwyr i ddeall eu bod yn dewis y clwb priodol ar gyfer eu pobl ifanc.
Gellir cael gwybodaeth am Gynlluniau Achredu eraill gan Gyrff Rheoli yma.