Mae Cynllun Datblygu Clwb yn esbonio ble mae clwb eisiau bod yn y dyfodol. Mae’n amlinellu amcanion y clwb, sut cyflawnir yr amcanion hyn ac erbyn pryd.
Dylai fod yn ddogfen hawdd ei darllen felly’r cyngor pwysicaf yw ei chadw’n fyr, yn syml ac yn gwbl glir.
Pam trafferthu?
Mae cynllun datblygu’n gallu helpu i greu ffocws i weithgaredd. Wrth i chi fod yn brysur yn rhedeg eich clwb o ddydd i ddydd, mae’n hawdd iawn anghofio am y darlun mwy. Gall helpu i gyfathrebu eich cynlluniau ar gyfer y dyfodol i aelodaeth ehangach ac ennyn eu cefnogaeth.
Mae eu hangen yn aml iawn fel rhan o geisiadau am grantiau mwy hefyd.
Mae wedi’i ysgrifennu. Beth nesaf?
Monitro, adolygu a diwygio wrth i’ch clwb chi barhau i dyfu a datblygu.
Gallai’r cynllun fod yn eitem ar agenda eich CCB fel bod yr aelodau’n dod i ddeall y cynlluniau a lleisio eu barn.
Hefyd efallai bod gennych chi ddiddordeb mewn drafftio cynllun busnes neu Gynllun Strategol ar gyfer eich clwb.