Mae Cytundeb Lefel Gwasanaeth (CLG) yn gytundeb rhwng dau neu fwy o bartïon a dylai amlinellu’n glir rôl a chyfrifoldebau pawb sy’n gysylltiedig â’r cytundeb.
Gall y CLG fod yn gontract sy’n rhwymo’n gyfreithiol neu’n gontract anffurfiol. Efallai y bydd y cytundeb yn cynnwys gwahanol sefydliadau, neu wahanol dimau oddi mewn i un sefydliad. Efallai y byddwch yn ystyried cytundeb lefel gwasanaeth gyda chyfleuster lleol, er enghraifft.
Dyma un rhybudd - nid yw clwb anghorfforedig yn bodoli’n gyfreithiol ac felly ni all lofnodi contractau. Os bydd clwb anghorfforedig yn llofnodi contract, bydd y contract yn ddilys yn gyfreithiol ond, mewn gwirionedd, aelodau’r pwyllgor fydd wedi llofnodi’r contract a byddant wedi’u clymu’n gyfreithiol o ran canlyniad y contract hwnnw.
Mae hyn yn gosod goblygiadau atebolrwydd personol ar aelodau’r pwyllgor felly ystyriwch wneud y clwb yn un corfforedig cyn llofnodi unrhyw gontractau ar gyfer staffio, prydlesau, cytundebau lefel gwasanaeth ac ati. Bydd hyn yn gwarchod aelodau’r pwyllgor rhag atebolrwydd personol.