Mae gwrthdaro buddiannau’n codi’n aml ac mae’n bwysig cofio nad yw gwrthdaro o’r fath yn golygu eich bod chi wedi gwneud rhywbeth o’i le bob amser.
Ond mae’n rhaid i chi reoli’r gwrthdaro yma er mwyn ei atal rhag ymyrryd â’ch gallu chi i wneud penderfyniad, er budd a lles y clwb.
I roi syniad i chi, dyma fathau o wrthdaro:
- Gallech elwa’n ariannol neu fel arall o’ch clwb, naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol drwy rywun y mae gennych gysylltiad ag ef neu hi
- Mae eich dyletswydd chi i’ch clwb yn cystadlu yn erbyn eich dyletswydd neu deyrngarwch i sefydliad neu berson arall
I gael rhagor o wybodaeth am y math o wrthdaro sy’n gallu codi, ac arweiniad ar sut ddylid rheoli’r sefyllfaoedd hyn, ewch i’r wefan Chwaraeon a Hamdden.
Er mwyn cyfyngu ar y posibilrwydd o wrthdaro buddiannau, mae’n syniad da sefydlu polisi ar gyfer hyn. Gallwch lawrlwytho templed polisi yma - ond cofiwch mai dim ond canllaw yw hwn. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ei addasu i ddiwallu anghenion eich clwb chi.