Beth sydd angen i chi ei wneud?
✔️ Cysylltwch â'ch Corff Rheoli Chwaraeon Cenedlaethol neu dîm datblygu chwaraeon eich Awdurdod Lleol i weld pa gefnogaeth maent yn ei chynnig ynghylch diogelu plant ac oedolion sy'n wynebu risg. Holwch eich corff rheoli cyn ymgymryd ag unrhyw hyfforddiant diogelu gan fod rhai cyrff rheoli yn cydnabod eu rhai hwy yn unig.
✔️ Mae angen i chi gael polisi amddiffyn plant yn ei le. Rydym yn awgrymu eich bod yn cael sgwrs gyda'ch Corff Rheoli Cenedlaethol i ddarganfod sut gallwch chi fabwysiadu ei Bolisi Amddiffyn Plant presennol ar gyfer eich Clwb.
Hefyd mae gan WCVA adnoddau a gwybodaeth wych ar ei wefan – gan gynnwys Cod Ymddygiad, canllawiau a thempled, ochr yn ochr â Pholisi Diogelu a thempled.
Os ydych chi'n sefydliad bychan neu ddim yn aelod o CRhC – cysylltwch â’r WCVA.
✔️ Dylech hefyd gytuno ar bolisi amddiffyn sy'n canolbwyntio ar oedolion sy'n wynebu risg. Cymerwch olwg ar y canllawiau yma.
✔️ Penodi Swyddog Lles Clwb – gallwch weld beth mae’r rôl hon yn ei olygu yn ein disgrifiad swydd.
✔️ Os nad yw'n Swyddog Lles y Clwb, gwnewch yn siŵr bod bob amser rywun y gall aelodau'r clwb ymddiried ynddo i siarad am unrhyw bryderon.
✔️ Dylai fod gennych God Ymddygiad ysgrifenedig yn dangos yr hyn sy'n ofynnol gan staff, gwirfoddolwyr ac aelodau. Lawrlwythwch dempled Cod Ymddygiad Hyfforddwyr a Phwyllgorau yma. Neu edrych ar WCVA am fwy o esiamplau cyffredinol.
✔️ Dylai eich clwb ofyn am ganiatâd rhiant wedi'i lofnodi a manylion brys pan fyddwch yn cofrestru aelodau newydd.
✔️ Gwnewch yn siŵr eich bod yn helpu i gadw plant, pobl ifanc ac oedolion sy’n wynebu risg yn ddiogel ar-lein. Gallwch gael gwybod mwy am sut i wneud hyn yn 'Cadw’n Ddiogel Ar-lein'.
Mae llawer mwy o wybodaeth am ddiogelu plant ar gael ar wefan yr Uned Diogelu Plant mewn Chwaraeon yr NSPCC. Os oes arnoch chi angen cyfarwyddyd ar ddiogelu oedolion agored i niwed sy’n wynebu risg, gallwch ddod o hyd iddo ar wefan yr Asiantaeth Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol.