Gyda Chronfa Cymru Actif, gall clybiau a sefydliadau cymunedol sydd â ffyrdd newydd o gyflwyno gweithgareddau a phrosiectau chwaraeon wneud cais am gyllid. Gall clybiau hefyd brynu offer hanfodol fel peli, bibiau, gwisg, ac offer chwaraeon arall, a gallant hefyd gyllido cyrsiau hyfforddi ar gyfer eu gwirfoddolwyr a all alluogi mwy o bobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol.
Cronfa Cymru Actif
Os oes gennych chi gais arfaethedig gyda ni eisoes, gallwch chi fewngofnodi o hyd i’n porthol ceisiadau.
Beth yw Cronfa Cymru Actif?
Mae Cronfa Cymru Actif yn rhaglen grant sy’n helpu clybiau chwaraeon a sefydliadau cymunedol ledled Cymru i wella mynediad at weithgarwch corfforol. Mae'n darparu rhwng £300 a £50,000 i gefnogi prosiectau sy'n hyrwyddo cydraddoldeb, cynaliadwyedd ac arloesi mewn chwaraeon.
Y peth gorau...
Gall pob clwb neu sefydliad nid-er-elw yng Nghymru wneud cais, dim ots beth yw eu maint neu leoliad, os oes gan eich clwb yr holl ofynion perthnasol i gyllid yn eu lle.
Beth fyddwn yn ei gefnogi?
- Prynu offer sy'n galluogi mwy o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon.
- Uwchsgilio gwirfoddolwyr mewn meysydd lle nad oes gan eich clwb arbenigedd neu brofiad.
- Datblygu prosiectau arloesol sy'n hyrwyddo gweithgarwch corfforol mewn ffyrdd newydd neu wahanol.
- Defnyddio technoleg i gynnwys mwy o bobl mewn gweithgarwch corfforol.
- Estyn allan at bobl sydd ar hyn o bryd yn cael eu tangynrychioli mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
PWY SY'N GYMWYS?
I fod yn gymwys ar gyfer Cronfa Cymru Actif, rhaid i'ch sefydliad fod fel a ganlyn:
- Clwb chwaraeon neu sefydliad cymunedol nid-er-elw.
- Cael ei gynnal yng Nghymru a bod ar gyfer pobl Cymru yn bennaf.
- Mae’r cyllid yn gymwys ar gyfer prosiectau neu weithgareddau sydd heb ddechrau eto.
- Defnyddio’r arian ar gyfer y gymuned gyfan, nid dim ond er budd ysgol benodol.
- Bodloni gofynion y ffurflen Mynegi Diddordeb.
- Hyrwyddo cydraddoldeb, cynaliadwyedd ac arloesedd mewn prosiectau chwaraeon.
- Dangos sut bydd y prosiect yn cynyddu mynediad i weithgarwch corfforol.
Cronfa Cymru Actif - PROSIECTAU
Sut i wneud cais?
Gallwch wneud cais gyda ni ar-lein. Llenwch ein Ffurflen Mynegi Diddordeb a byddwn yn cysylltu â chi o fewn 2 ddiwrnod gwaith gyda rhagor o wybodaeth am wneud cais.
Dewch o hyd i mwy o wybodaeth yma am sut i wneud cais am y Gronfa Cymru Actif.
Cyn i chi wneud cais, rydym yn awgrymu eich bod yn cysylltu ag o leiaf un o'r grwpiau hyn i gael arweiniad gyda’ch cais:
- Eich corff rheoli cenedlaethol os oes gennych chi un.
- Adran datblygu chwaraeon eich awdurdod lleol.
- Unrhyw sefydliadau cefnogi eraill perthnasol.
Cofiwch bod posib cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg neu yn Saesneg ac na fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Rydym yn argymell yn gryf bod y rhai sy'n gwneud cais am gyllid gyda ni yn darllen ein telerau ac amodau ar gyfer grantiau
Os oes gennych chi gais arfaethedig gyda ni eisoes, gallwch chi fewngofnodi o hyd i'n porthol ceisiadau.
Sut mae’r cyllid yn cael ei ddyfarnu?
Y dyfarniad isafswm yw £300 a’r dyfarniad uchafswm yw £50,000*.
Mae’r cyllid yn cael ei ddyfarnu ar raddfa symudol:
- Grant o 100% hyd at £10,000
- Grant o 90% ar gyfer dyfarniadau rhwng £10,001 a £25,000
- Grant o 80% ar gyfer dyfarniadau rhwng £25,001 a £50,000
*Bydd angen cyfraniad isafswm o 10% o gyfanswm cost y prosiect ar gyfer ceisiadau dros £10k, a chyfraniad isafswm o 20% o gyfanswm cost y prosiect ar gyfer ceisiadau dros £25k.
Ni fydd pob eitem sy'n gymwys am gyllid yn derbyn isafswm o 80% o ddyfarniad yn awtomatig. Mae rhai eitemau penodol wedi'u capio ar 50% o gostau'r prosiect, neu i derfyn ariannol penodol, ac rydyn ni'n annog yr ymgeiswyr i ofyn am eglurhad lle bo angen
Beth sy'n digwydd ar ôl i mi wneud cais?
Byddwn yn adolygu eich ffurflen ac yn ceisio gwneud penderfyniad o fewn 2 ddiwrnod gwaith.
BLE GALLAF GAEL CEFNOGAETH?
Mae gennym amrywiaeth o adnoddau i gefnogi clybiau chwaraeon a gwirfoddolwyr yng Nghymru. Ewch i'n tudalen Adnoddau ni am gyngor i helpu i redeg eich clwb yn effeithiol a datblygu, a all fod yn ddefnyddiol yn eich cais.
SUT I GYSYLLTU Â NI
Gallwch anfon e-bost gydag ymholiadau atom ni arBEACTIVE@SPORT.WALES
Neu ffonio’r llinell gymorth ar 0300 3003102, dydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 10:00 a 12:30 ac 1:15 a 16:00.
Os nad ydych yn gallu cael gafael ar aelod o'n tîm, arhoswch ar y lein oherwydd gall ein gwasanaeth neges llais fod o gymorth hefyd y tu allan i'n horiau gwaith.
Beth sy'n digwydd ar ôl i mi wneud cais?
Byddwn yn adolygu eich cais ac yn ceisio gwneud penderfyniad o fewn 20 diwrnod gwaith.
Mwy o gefnogaeth
Mae gennym amrywiaeth o adnoddau i gefnogi clybiau chwaraeon a gwirfoddolwyr yng Nghymru. Ewch i'n tudalen Adnoddau am gyngor i helpu gyda gweithredu eich clwb yn effeithiol a’i ddatblygu, a all fod yn ddefnyddiol yn eich cais.