Main Content CTA Title

Gwybodaeth Ychwanegol - Cronfa Cymru Actif

  1. Hafan
  2. Cyllid a Chefnogaeth
  3. Cronfa Cymru Actif
  4. Gwybodaeth Ychwanegol - Cronfa Cymru Actif

Newidiadau i'r cyllid 2024/25

Bydd rhai eitemau sy'n gymwys ar gyfer cyllid yn gyfyngedig ar wahanol lefelau. Gallwch ddod o hyd i restr o'r rhain isod.

Lefelau cyllid wedi'u capio ar gyfer eitemau penodol:

Gallwch wneud cais am: 

  • Uchafswm o £40,000 ar gyfer prosiectau llifoleuadau.
  • 50% o gost y prosiect, hyd at uchafswm o £20,000 fesul ymgeisydd am yr eitemau canlynol.
    • Rhwydi criced
    • Prosiectau draenio
    • Meysydd ymarfer ac ystafelloedd efelychu
    • Prosiectau llwybrau 
    • Arwynebau chwaraeon, gan gynnwys cyrtiau tennis
    • Lloriau gymnasteg
    • Rhwydi criced
    • Wicedi criced artiffisial (uchafswm dyfarniad o £10,000)

Cofiwch: Gall dyfarniadau grant ar gyfer arwynebau chwaraeon gael eu cynyddu, yn dibynnu ar gyfraniad ariannol yr ymgeisydd.

Offer Cynnal a Chadw Caeau

Gallwch wneud cais am gyfanswm o £10,000 i gynnwys:

  • Uchafswm o £5,000 tuag at beiriannau torri gwair
  • Uchafswm pellach o £5,000 ar gyfer atodiadau peiriannau torri gwair

Cofiwch: Cynghorir ymgeiswyr i gofrestru aelod o’r clwb ar Gwrs Cynnal a Chadw Tiroedd.

Trelars / Cynwysyddion

Dim ond o dan yr amodau canlynol y gallwch chi wneud cais am gyllid ar gyfer trelar neu gynhwysydd:

  • Os ydych chi hefyd yn gwneud cais am offer
  • Hyd at uchafswm o £3,000

Cofiwch: Os yw trelar neu gynhwysydd yn ddrutach na £3,000 neu os nad ydych yn gwneud cais am offer, mae trelars a chynwysyddion yn gymwys o hyd ar gyfer cyllid drwy ein cynllun “Lle i Chwaraeon” gyda Crowdfunder. 

Llogi Lleoliad

Dim ond o dan yr amodau canlynol y gallwch chi wneud cais ar gyfer llogi lleoliad

  • Os ydych chi’n sefydlu tîm newydd, grŵp oedran newydd neu adran newydd yn eich clwb
  • Ar gyfer uchafswm o ddau dîm i bob cais
  • Ar gyfer 1 awr yr wythnos am gyfanswm o 10 wythnos y tîm.

 

Addysg Hyfforddwyr

Wrth wneud cais am gyllid ar gyfer cyrsiau addysgu hyfforddwyr:

  • Rhaid i chi gyflwyno enwau’r holl wirfoddolwyr neu’r hyfforddwyr fydd yn cymryd rhan.
  • Dim ond dyfarniadau addysgu hyfforddwyr newydd sy’n gymwys.
  • Nid yw adnewyddu addysg hyfforddwyr yn gymwys.