PWY FYDDWN YN EU CYLLIDO
Mae Cronfa Cymru Actif ar gael i glybiau a sefydliadau chwaraeon nid-er-elw sy’n darparu chwaraeon a gweithgarwch corfforol cymunedol.
Mae’r sefydliadau hyn yn cynnwys y canlynol:
- Clybiau chwaraeon nid-er-elw lleol. os oes arnoch chi angen esboniad am y diffiniad o ‘nid-er-elw’ a statws eich clwb, eich sefydliad neu eich grŵp, cysylltwch â’ch corff rheoli neu â Chwaraeon Cymru ar cymruactif@chwaraeon.cymru.
- Sefydliadau’r sector gwirfoddol a chymunedol sy’n darparu neu’n galluogi chwaraeon a/neu weithgarwch corfforol, gan gynnwys sefydliadau nad ydynt yn sefydliadau chwaraeon yn unig neu’n bennaf ac sydd â rôl bwysig i’w chwarae mewn cadw pobl yn actif, sydd angen cefnogaeth efallai er mwyn i rannau eraill eu sefydliad barhau ar agor.
- Ymddiriedolaethau elusennol bychain nad ydynt yn gymwys am gymorth ariannol o unrhyw ffynhonnell arall.
- Cyrff rhanbarthol sy’n wynebu risg o galedi ariannol.
Beth Fyddwn Yn Ei Gyllido
Mae’r gronfa wedi cael ei datblygu i helpu sefydliadau chwaraeon a gweithgarwch corfforol cymunedol sy’n methu cyflawni eu rhwymedigaethau ariannol. Er enghraifft, ar gyfer costau sefydlog, nad ydynt yn cael eu cefnogi gan refeniw mwyach, oherwydd y coronafeirws.
Gall hyn gynnwys gwariant ar y canlynol:
- Rhent
- Costau cyfleustodau
- Yswiriant
- Llogi cyfleusterau neu offer (os oes cost sefydlog)
- Gweithgareddau neu gostau na all ffynonellau cyllid y llywodraeth dalu amdanynt
Byddem yn disgwyl i’r ymgeiswyr fod wedi ceisio am ffynonellau eraill o gyllid, yn enwedig y ffynonellau brys o gyllid a chefnogaeth sy’n cael eu darparu gan Lywodraeth Cymru neu Lywodraeth y DU.
Ni all ymgeiswyr sydd eisoes wedi derbyn cefnogaeth o’r Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng wneud cais eto am help i dalu am y costau hyn y maent wedi derbyn cyllid ar eu cyfer eisoes.