Main Content CTA Title
  1. Hafan
  2. Cyllid a Chefnogaeth
  3. Lle i Chwaraeon - Crowdfunder

Lle i Chwaraeon - Crowdfunder

Codi arian i wella'r cyfleusterau yn eich clwb chwaraeon.

Beth yw Lle i Chwaraeon?

Cronfa gan Chwaraeon Cymru yw Lle i Chwaraeon. Mae’n helpu clybiau chwaraeon i godi arian drwy Crowdfunder i wella eu cyfleusterau.   

Os bydd eich clwb yn dechrau tudalen codi arian ar Crowdfunder, gallai Chwaraeon Cymru gefnogi hyd at 60% o’ch targed hyd at uchafswm o £15,000.

Beth yw Crowdfunder?

Gwefan yw Crowdfunder lle mae pobl yn rhoi arian i gefnogi achosion da. Gallwch greu tudalen codi arian ar gyfer eich clwb a'i rhannu gyda'ch aelodau a'ch cymuned leol.

Er mwyn annog pobl i gyfrannu, gallwch gynnig gwobrau, fel y rhain:

  • Hetiau neu grysau-t y clwb.
  • Byrddau hysbysebu neu nawdd.
  • Mynediad am ddim neu ddiod am ddim.
  • Pethau am ddim neu am bris is mewn busnesau lleol.

Ar gyfer beth allwch chi godi arian?

Gallwch godi arian i wella cyfleusterau eich clwb neu brynu offer ‘oddi ar y cae’.

Dyma rai enghreifftiau:

  • Atgyweirio neu uwchraddio ystafelloedd newid, toiledau neu gawodydd
  • Adnewyddu adeilad eich clwb
  • Gwella ardaloedd cegin neu far
  • Ychwanegu raciau neu storfa beiciau
  • Gwneud eich lle yn fwy hygyrch (gyda rampiau neu lifftiau)
  • Atgyweirio ffensys, neu ychwanegu standiau a seddau
  • Prynu byrddau sgorio neu offer fideo
  • Offer cynnal a chadw caeau

Os ydych chi’n chwilio am gyllid ar gyfer offer chwaraeon neu gyrsiau hyfforddi, rhowch gynnig ar Gronfa Cymru Actif.

Pwy all wneud cais?

Gallwch wneud cais os yw’r canlynol yn berthnasol i chi:

  • Rydych chi'n glwb chwaraeon nid-er-elw neu'n grŵp cymunedol
  • Mae eich clwb wedi'i leoli yng Nghymru ac mae o fudd i bobl sy'n byw yng Nghymru

Edrychwch ar y manylion cymhwysedd llawn ar Crowdfunder.

Beth sydd arnoch chi ei angen i dderbyn arian gan Chwaraeon Cymru? 

I dderbyn arian gan Chwaraeon Cymru, rhaid i chi wneud y canlynol:

  • Codi o leiaf 25% o gyfanswm eich targed.
  • Cael cyfraniadau gan isafswm penodol o gefnogwyr gwahanol. (Mae'r nifer yma’n dibynnu ar eich targed.)
  • Cyrraedd cyfanswm eich targed erbyn dyddiad penodol.

Defnyddiwch Gyfrifiannell Crowdfunder i weld faint sydd angen i chi ei godi a faint o bobl sydd angen cyfrannu.

Sut i Wneud Cais 

Cam 1: Llenwi’r Ffurflen Mynegi Diddordeb

Dywedwch wrthym ni am eich prosiect drwy lenwi'r ffurflen ar-lein.

Cam 2: Aros am Ymateb

Ein nod ni yw ymateb o fewn 2 ddiwrnod gwaith.

Cam 3: Creu eich tudalen Crowdfunder

Byddwch yn cael gwahoddiad i greu tudalen Crowdfunder sy'n cynnwys y canlynol:

  • Disgrifiad byr o'r prosiect
  • Fideo syml
  • Lluniau
  • Gwobrau i gefnogwyr

Cam 4: Dechrau codi arian

  • Rhannu’r manylion yn eich cymuned leol
  • Postio ar gyfryngau cymdeithasol
  • Cynnal digwyddiadau, gemau neu weithgareddau eraill
  • Gofyn i bobl gyfrannu a lledaenu’r gair

Dyma ganllaw cam wrth gam defnyddiol i'ch helpu chi i wneud cais.    

Sut mae cyllid yn cael ei ddyfarnu

Unwaith y byddwch chi’n cyrraedd eich nod cyllido a’r targed o ran cefnogwyr y cytunwyd arno, gallai Chwaraeon Cymru gyfrannu’r canlynol:

  • 50% o'ch cyfanswm – os yw eich prosiect yn debygol o lwyddo ar Crowdfunder
  • 60% o’ch cyfanswm – os yw eich prosiect yn targedu grwpiau a dangynrychiolir neu mewn ardal amddifadedd uchel (yn seiliedig ar Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru – MALlC)

Pwysig: Bydd angen i chi fodloni’r holl amodau a nodir gan Chwaraeon Cymru, fel targedau codi arian a nifer y cefnogwyr, i dderbyn arian gan Lle i Chwaraeon. 

Angen help?

Rydyn ni yma i'ch cefnogi chi. Os oes gennych chi gwestiynau neu os ydych chi angen help:

E-bost:[javascript protected email address]
Rhif Ffôn: 0300 300 3102 (Dyddiau’r wythnos: 10am – 12:30pm a 1:15pm – 4pm)

Os nad ydyn ni ar gael, gallwch adael neges neu roi cynnig arall arni yn nes ymlaen.

Dolenni defnyddiol 

Llenwch y Ffurflen Mynegi Diddordeb i ddechrau eich cais heddiw     

Sut i wneud cais am brosiect Crowdfunder Lle i Chwaraeon x

Dyma ein canllaw cam wrth gam ar sut i wneud cais…

Darllen Mwy
Crowdfunder - Cwestiynau Cyffredin

Dyma'r atebion i gwestiynau cyffredin am y gronfa.

Darllen Mwy