Rydw i eisoes yn rhedeg ymgyrch codi arian i fy nghlwb. Ydw i’n gymwys ar gyfer cyllid?
Yn anffodus, ni allwn gyllido am yn ôl, a bydd angen i chi ddefnyddio gwefan / porthol Crowdfunder i gael cefnogaeth. Bydd angen i chi fodloni’r canlynol:
- Bod â nifer penodol o gefnogwyr unigryw *
- Codi arian yn seiliedig ar wobrau a chyllido torfol.
- * 25 o Gefnogwyr unigryw os yw eich targed hyd at £5,000
- 50 o Gefnogwyr unigryw os yw eich targed rhwng £5,001 a £10,000
- 75 o Gefnogwyr unigryw os yw eich targed rhwng £10,001 a £15,000
- 100 o Gefnogwyr unigryw os yw eich targed dros £15,000
Beth os ydw i eisiau gwella cyfleusterau chwaraeon?
Os ydych chi'n edrych am welliannau ‘ar y cae’ a all helpu i wella cyfranogiad mewn chwaraeon, fel llifoleuadau, pyst gôl neu rwydi criced, efallai bod Cronfa Cymru Actif yn opsiwn cyllido gwell i chi.
Ydw i’n cael gwneud cais os ydw i wedi derbyn cyllid o Gronfa Cymru Actif eisoes?
Ydych. Mae’r rhain yn gronfeydd ar wahân. Gan fod Cronfa Cymru Actif ar gyfer gwelliannau ‘ar y cae’ a Crowdfunder ar gyfer gwelliannau ‘oddi ar y cae’, gallwch wneud cais i’r ddwy gronfa.
Dylech nodi, er y gallwch wneud cais am y ddau, mai dim ond un cais y gall eich clwb ei wneud i bob cronfa mewn unrhyw flwyddyn ariannol.
Mae fy nghlwb i’n gwmni cyfyngedig, ydyn ni’n gymwys?
Os gallwch brofi bod eich cwmni cyfyngedig yn gwmni nid er elw, gallech chi fod yn gymwys. Cyn belled â'ch bod yn bodloni'r elfennau eraill yn y meini prawf.
Bydd unrhyw glybiau nid er elw, sefydliadau gwirfoddol neu gymunedol sy'n darparu neu'n galluogi chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol yng Nghymru yn gymwys ar gyfer Lle i Chwaraeon.