Pam wnaethoch chi newid eich dull o fuddsoddi?
Mae’r dull newydd o fuddsoddi’n ymateb i’r realiti nad oes digon o bobl yn cymryd rhan ar hyn o bryd i ni gyflawni’r Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon. Mae gormod o fylchau cyfranogiad ystyfnig a dim digon o amrywiaeth yn ein darpariaeth.
Rydyn ni’n gwybod nad ydyn ni, yn draddodiadol, wedi diwallu anghenion yr holl gymunedau gwahanol niferus yng Nghymru a bod angen newid sylweddol yn y ffordd rydyn ni i gyd yn gwneud ac yn meddwl am bethau i sicrhau’r cynnydd sydd ei angen.
Mae rowndiau diweddaraf yr Arolwg Chwaraeon Ysgol a’r Arolwg Chwaraeon a Ffordd o Fyw Actif yn dangos meysydd o gyfleoedd enfawr, ond nid oedd unrhyw ffordd y gellid gwireddu’r rhain heb newid y ffordd rydyn ni’n rhoi adnoddau i’r sector.
Mae’r dull newydd wedi’i ddatblygu ar ôl ymgysylltu â phartneriaid a rhanddeiliaid allweddol, gan adeiladu ar adborth ac ymchwil ar y cyd o wahanol fodelau buddsoddi o bob rhan o’r byd.
Pam mae gwahanol fersiynau o'r dull buddsoddi ar gyfer gwahanol bartneriaid?
Mae ein dull buddsoddi’n gweithredu drwy ddefnyddio data cenedlaethol lle mae ar gael a chyfres o egwyddorion sy’n gysylltiedig â’r Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon lle nad ydynt, i benderfynu sut rydyn ni’n dosbarthu ein buddsoddiad ymhlith partneriaid.
Rydyn ni’n defnyddio dull a sbardunir gan ddata i bennu buddsoddiad gyda phartneriaid y mae gennym ystadegau lefel genedlaethol a data perfformiad ar eu cyfer. Mae’r dull buddsoddi hwn sy’n cael ei sbarduno gan ddata yn ein galluogi ni i wrando ar yr hyn y mae pobl Cymru yn ei ddweud wrthym y maen nhw eisiau ei wneud, gan ddefnyddio data fel sail i faint rydyn ni’n ei fuddsoddi mewn partneriaid unigol a rhoi mwy o arwyddocâd i hil, rhywedd, anabledd ac amddifadedd.
Os na allwn sicrhau ystadegau lefel genedlaethol ar gyfer partner, rydyn ni’n defnyddio dull sy’n cael ei sbarduno gan egwyddorion i bennu lefel o fuddsoddiad. Gan ddefnyddio cyfres o egwyddorion sy’n diffinio’r sylfeini ar gyfer creu system chwaraeon fwy cynhwysol, mae’r dull buddsoddi hwn sy’n cael ei sbarduno gan egwyddorion yn dosbarthu cyllid ymhlith sefydliadau sy’n cefnogi datblygu cyfleoedd ar gyfer grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol ac sy’n defnyddio eu dirnadaeth a’u harbenigedd i gefnogi sefydliadau eraill yn y sector mewn ffordd strategol.
Beth am bartneriaid newydd?
Mae strategaeth Chwaraeon Cymru yn ein hymrwymo ni i weithio gydag ystod ehangach a mwy amrywiol o bartneriaid er mwyn creu cenedl actif lle mae cyfle i bawb gymryd rhan. Mae’r fframwaith sy’n cael ei sbarduno gan egwyddorion yn darparu dull clir a chyson o asesu sut gallai partneriaid newydd gael effaith yn erbyn y Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon a pha lefel o gyllid y dylid ei fuddsoddi felly.
All partner apelio yn erbyn y broses a ddefnyddiwyd gennych i ddyrannu cyllid?
Bydd partneriaid yn gallu apelio yn erbyn y broses a ddefnyddiwyd i ddod i benderfyniad buddsoddi, ond nid y canlyniad. Gellir dod o hyd i broses apelio Chwaraeon Cymru yma.
Sut byddwch chi’n monitro effaith y dull newydd o fuddsoddi?
Yn y pen draw, hoffem weld newid yn y data cyfranogiad cyffredinol yn yr Arolwg Chwaraeon Ysgol ac Arolwg Cenedlaethol Cymru. Bydd dadansoddiad o’r data hyn hefyd yn gallu pennu a ydyn ni’n gwneud gwahaniaeth ar draws y cymunedau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol ac yr ydyn ni’n ceisio’u cyrraedd. Bydd hwn yn ganlyniad tymor hir, ac yn un a gaiff ei fesur bob ychydig o flynyddoedd.
Ar gyfer monitro mwy rheolaidd, mae elfen atebolrwydd y dull newydd o fuddsoddi yn ein galluogi ni i archwilio, darparu a dysgu gyda'n partneriaid i sicrhau ein bod yn gallu sicrhau'r effaith fwyaf bosibl ar y Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru gyda'r adnoddau sydd ar gael.
Mae’r dull yn annog man diogel lle mae partneriaid yn cael eu cefnogi i roi disgrifiad gonest o’u gweithredoedd ac i flaenoriaethu casglu dirnadaeth, gwybodaeth a data sy’n ddefnyddiol i’w helpu i ddysgu a gwella (yn hytrach na’n bodloni ni fel cyllidwr) ac, yn ei dro, yn ein cefnogi ni i ddangos cynnydd yn erbyn yr anghydraddoldebau ystyfnig sy'n bodoli. Dylem ddisgwyl clywed mwy am y gwaith y mae partneriaid yn ei wneud o fewn y gofod cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, a’r effaith y mae hyn yn ei chael ar gymunedau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol. Gall hyn fod yn gyfuniad o wybodaeth ansoddol a meintiol, ond gyda ffocws ar ddysgu i wella yn hytrach na phennu targedau neu DPAion a allai amharu ar ddiwallu anghenion cymunedau Cymru.
Pa effaith ydych chi'n credu y bydd y dull newydd yn ei gyflawni?
Rydym yn credu y bydd y dull newydd yn rhoi’r sector yn y sefyllfa orau ar gyfer creu gwahaniaeth amlwg mewn lefelau cyfranogiad, yn enwedig mewn meysydd lle rydyn ni’n gwybod bod anghydraddoldebau, er enghraifft mewn ardaloedd o amddifadedd, ymhlith pobl o leiafrifoedd ethnig, a phobl ag anableddau, a merched a genethod.
Bydd y dull newydd yn cefnogi partneriaid i ganolbwyntio amser ac ymdrech, a chyllid, ar y pethau priodol, gan ddefnyddio data a gwybodaeth fel sail i wir ddeall anghenion y cymunedau maen nhw’n eu gwasanaethu. Dylem weld sefydliadau mwy abl ac amrywiol sy'n cael eu rhedeg yn dda, eu harwain yn dda ac sy'n ymdrechu i wella'n barhaus. Dylai hefyd annog mwy o gyfleoedd ar gyfer cydweithredu rhwng partneriaid i gyflawni nodau cyffredin.
Oes unrhyw un ar ei golled oherwydd y dull newydd?
Yn draddodiadol nid ydym wedi diwallu anghenion yr holl gymunedau gwahanol niferus yng Nghymru, mae gormod o fylchau cyfranogiad ystyfnig a dim digon o amrywiaeth yn ein darpariaeth. Roedd angen newid sylweddol yn y ffordd rydyn ni’n gwneud ac yn meddwl am bethau er mwyn sicrhau’r cynnydd sydd ei angen. I gefnogi hyn mae'r dull newydd o fuddsoddi’n arwain at ailddosbarthu swm penodol o fuddsoddiad sydd ar gael ar draws grŵp craidd o bartneriaid.
Mae'r dull newydd yn blaenoriaethu'r grwpiau hynny rydyn ni’n gwybod eu bod yn cymryd rhan ar lefel is na'r cyfartaledd ac sy’n aml yn wynebu mwy o rwystrau i gymryd rhan. Bydd hyn yn golygu ein bod ni wedi gorfod gwneud y penderfyniad anodd i fuddsoddi llai mewn rhai partneriaid, ond mae hyn yn galluogi i ni fuddsoddi mwy lle mae ei wir angen, gyda’r rhai sy’n gallu cefnogi’r grŵp hwnnw sy’n cymryd llai o ran, a sicrhau bod yr holl gymunedau’n cael eu gwasanaethu.
Mae unrhyw ostyngiad mewn cyllid yn yr ystyr hwn yn ganlyniad i’r angen am ailddosbarthu i sicrhau bod cyfleoedd yn cael eu darparu i’r llu o gymunedau gwahanol yng Nghymru yn deg.
Ble gallaf i gael rhagor o wybodaeth am fuddsoddiad partner?
Os ydych chi'n bartner sy’n cael ei gyllido ar hyn o bryd, cysylltwch â'ch Rheolwr Perthnasoedd ynghylch buddsoddiad. Os ydych chi’n ddarpar bartner newydd, cysylltwch â [javascript protected email address].
Pa fathau eraill o fuddsoddiad sydd ar gael gan Chwaraeon Cymru?
Rydyn ni’n buddsoddi arian Llywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol mewn sawl math o sefydliad yng Nghymru. Mae rhagor o wybodaeth am fuddsoddi mewn sefydliadau cenedlaethol a chyllido clybiau cymunedol ar gael yma.