Mae gennym ni gyfrifoldeb i sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei fuddsoddi’n briodol.
Mae’r elfen gallu yn sicrhau ein bod ni’n gallu bod â hyder yn y sefydliadau rydyn ni’n eu cyllido ac mae’n ein galluogi ni i gefnogi partneriaid gyda’u gwelliant parhaus o ran llywodraethu.
Fframwaith Gallu
Wedi'i ddatblygu gyda phartneriaid, nod y FFRAMWAITH GALLU yw cefnogi sefydliadau gyda'u gwelliant parhaus, gan sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei fuddsoddi'n gyfrifol. Mae’r Fframwaith Gallu – sy’n cyd-fynd â Fframwaith Llywodraethu ac Arwain Cymru (GLFW) 2019 – wedi’i adeiladu o amgylch meysydd llywodraethu allweddol ac mae’n canolbwyntio ar bwysigrwydd ymddygiad, moeseg a didwylledd o fewn sefydliad.
Mae’r Fframwaith Gallu yn defnyddio dull sy’n seiliedig ar risg o weithredu gyda phrif egwyddorion wedi’u teilwra i gynnig cymorth pwrpasol a chymesur sy’n berthnasol i sefydliadau o bob maint.
Gofynion hanfodol ac isafswm
Mae’r Fframwaith Gallu yn ein galluogi ni i ddefnyddio dull cyllido sy’n fwy seiliedig ar risg drwy ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau sy’n cael eu cyllido fodloni casgliad o ofynion hanfodol ac isafswm sy’n cyd-fynd â Fframwaith Llywodraethu ac Arwain Cymru (GLFW) 2019.
Mae’n ofynnol i bob partner sy’n manteisio ar fuddsoddiad Chwaraeon Cymru gwblhau hunanasesiad yn erbyn gofynion y Fframwaith Gallu sy’n berthnasol i lefel y buddsoddiad a gynigir.
Mae'r gofynion yn cwmpasu meysydd llywodraethu allweddol gan gynnwys: Cyfansoddiad y Bwrdd; Arweinyddiaeth; Moeseg a Didwylledd; Risg a Chyllid.
Adolygiadau Gallu
Cynhelir adolygiadau gallu wedi'u targedu drwy gydol y flwyddyn gyda phob partner yn cael adolygiad o leiaf unwaith mewn cylch pedair blynedd.
Mae’r adolygiadau’n ategu hunanasesiad sefydliad a’u nod yw cefnogi eu gwelliant parhaus, er mwyn iddynt fod mewn gwell sefyllfa i gyflawni eu potensial.
Mae adolygiadau gallu yn cefnogi dull gweithredu seiliedig ar risg y Fframwaith, gan ganolbwyntio ar lywodraethu caled (e.e., polisïau a gweithdrefnau) a llywodraethu meddal (e.e. gwerthoedd ac ymddygiadau).
Dyfodol y Fframwaith Gallu
Bydd ein dull o weithredu gyda gallu’n esblygu yn ôl yr angen i sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei fuddsoddi'n gyfrifol, a bod partneriaid yn cael cymorth i wella'n barhaus. Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid i symud y dull hwn yn ei flaen.