Skip to main content

Grant Arbed Ynni

 

Os oes gennych chi gais arfaethedig gyda ni eisoes, gallwch chi fewngofnodi o hyd i’n porthol ceisiadau.

Beth yw'r Grant Arbed Ynni? 

Mae’r Grant Arbed Ynni yn cynnig cyfle unigryw i glybiau wneud gwelliannau arbed ynni ac arbed arian. Nid yn unig y bydd clybiau’n elwa ar filiau cyfleustodau is, ond byddant hefyd yn gwneud eu rhan dros yr amgylchedd hefyd.

Bydd y grantiau yn helpu clybiau i ddod yn fwy cynaliadwy yn ariannol fel y gallant barhau i gynnig gweithgareddau fforddiadwy i'w cymunedau.

Mae hwn yn gam sylweddol tuag at greu dyfodol cynaliadwy i glybiau chwaraeon yng Nghymru.

Felly, os ydych chi'n glwb sydd eisiau arbed arian a hefyd cael effaith gadarnhaol ar y blaned, mae'r grant yma'n gyfle perffaith i chi! 

Mae’r ceisiadau ar gyfer y Grant Arbed Ynni wedi cau nawr

Os ydych chi wedi cyflwyno cais, byddwn yn cysylltu â chi am y cam nesaf yn y broses ymgeisio. 

Os oes gennych chi unhyw gwestiynau neu ymholiadau, gallwch gysylltu â’n tîm ni ar [javascript protected email address] neu ffonio’r llinell gymorth ar 0300 3003102, Llun - Gwener, rhwng 10:00-12:30 ac 1:15-16:00.

Edrychwch ar ein cronfeydd eraill ni neu gofrestru i dderbyn ein cylchlythyr.

Sign-up to our funding and support newsletter below.

* ofynnol