Mae clybiau chwaraeon ledled Cymru yn teimlo manteision y Grant Arbed Ynni. Yn 2023, dyfarnodd Chwaraeon Cymru bron i £1.4m i 78 o glybiau gwahanol – ac eisoes, maen nhw’n gweld gwahaniaeth.
Ond peidiwch â chymryd ein gair ni am hyn! Dyma rai o'u profiadau a'u cyngor nhw ar ddefnyddio’r Grant Arbed Ynni.
Clwb Criced Llanelwy
Mae Clwb Criced Llanelwy yn elwa o’u grant o £7,323 a ddefnyddiwyd i brynu cyfleusterau storio batris ar gyfer eu paneli solar. Gyda'r gwelliannau hyn, maen nhw’n gallu arbed yr ynni solar dros ben a'i werthu yn ôl i'r grid.
Dywedodd Gareth Williams: “Mae’r prosiect eisoes wedi gweld y clwb yn cyflawni gostyngiad sylweddol yn ein costau rhedeg misol yn ogystal â’n helpu ni i sicrhau gostyngiad ar yr un pryd yn ein hôl troed carbon.
“Mae’r arbedion cost ariannol wedi galluogi’r Clwb i dalu am ‘gostau byw’ eraill yn ogystal â chaniatáu i ni ailfuddsoddi yn ein cyfleusterau chwarae a chymdeithasol. Er enghraifft, rydyn ni’n gobeithio cyllido costau rhannol peiriant bowlio a bwydo newydd drwy’r arbedion ynni rydyn ni wedi eu gwireddu.”
Clwb Bechgyn a Merched Giants Grave
Gall Clwb Bechgyn a Merched Giants Grave yng Nghastell-nedd ganolbwyntio ar gyflawni yn eu cymuned a rhoi costau cynyddol i gefn eu meddwl ar ôl derbyn £22,902 ar gyfer paneli solar.
Dywedodd Chris McKenzie:“Mae’r Grant Arbed Ynni yma wedi diogelu dyfodol ein clwb ni a nawr fe allwn ni ganolbwyntio ar anghenion pobl ifanc eto heb boeni am gostau ynni cynyddol yn flynyddol."