Main Content CTA Title

Grŵp Chwaraeon Cenedlaethol wedi'i sefydlu ar gyfer y cam nesaf wrth ddychwelyd

  1. Hafan
  2. Grŵp Chwaraeon Cenedlaethol wedi'i sefydlu ar gyfer y cam nesaf wrth ddychwelyd

Bydd Grŵp Chwaraeon Cenedlaethol (NSG) newydd yn rheoli'r broses o ddynodi statws elitaidd ar gyfer dychwelyd pwyllog a graddol at chwaraeon grŵp a thîm cystadleuol. 

Yn dilyn y cyfnod atal byr diweddar, rhoddodd newidiadau i reoliadau Coronafeirws Llywodraeth Cymru gyfrifoldeb i Chwaraeon Cymru am ystyried gwneud dynodiadau pellach i alluogi i fwy o chwaraeon tîm trefnus gael eu chwarae yn yr awyr agored lle mae 30 fel nifer y bobl sy’n gallu dod at ei gilydd wedi bod yn cyfyngu. 

Mae’r rheoliadau’n dweud y dylid gwneud hyn dan reolaeth a fesul cam gyda chanllawiau clir ar waith gan gyrff rheoli chwaraeon i warchod pawb sy'n cymryd rhan.

 

Er mwyn sicrhau bod y broses ddynodi hon yn cael ei goruchwylio a'i llywodraethu'n briodol, mae Chwaraeon Cymru wedi sefydlu'r NSG. Bydd y grŵp hwn yn cynnwys cynrychiolwyr o Chwaraeon Cymru, Cymdeithas Chwaraeon Cymru, Cyngor Gemau'r Gymanwlad yng Nghymru a Llywodraeth Cymru.

Yn ddelfrydol dylid gwneud ceisiadau i’r grŵp drwy’r corff rheoli cenedlaethol. Agorodd y broses ymgeisio ddydd Iau 19eg Tachwedd.

Bydd yr amser rhwng gwneud y cais a’r penderfyniad yn dibynnu ar bob cais unigol a graddfa'r wybodaeth sydd ei hangen i sicrhau dadansoddiad trylwyr o'r cyflwyniad.

Beth ddylai fod yn sail i geisiadau?

Wrth geisio dynodiad, rhaid i'r ymgeisydd ddangos pam mae'n angenrheidiol a pha gyfyngiadau yn rheolau cenedlaethol y coronafeirws sy'n atal y gweithgaredd rhag digwydd heb yr eithriad y mae dynodiad statws elitaidd yn ei ddarparu. 

Wrth geisio dynodiad, rhaid dangos ei fod yn angenrheidiol er mwyn sicrhau’r canlynol: 

  • nad yw athletwyr o dan anfantais gystadleuol oherwydd rheolau cenedlaethol y coronafeirws;
  • cyfle cyfartal i athletwyr, gan gynnwys y rhai nad ydynt yn cael eu cynrychioli'n dda neu sydd o dan anfantais, i gystadlu ar y lefelau uchaf yn eu camp;
  • nid yw athletwyr sy'n ennill bywoliaeth o chwaraeon o dan anfantais ariannol oherwydd rheolau cenedlaethol y coronafeirws.

Rhaid i geisiadau nodi nifer yr athletwyr y ceisir y dynodiad ar eu cyfer, y math o ryngweithio a'r amgylchedd y byddai'r athletwyr yn hyfforddi neu'n cystadlu ynddo, a'r mesurau rhesymol a fyddai'n cael eu gweithredu i leihau’r risg o ddal a throsglwyddo'r coronafeirws, gan gynnwys ymgynghoriad a chytundeb perthnasol gyda darparwyr cyfleusterau/lleoliadau.

Nid oes hawl i gael y statws dynodedig perthnasol. Mae'n ymarfer barn sy'n seiliedig ar ganllawiau sy'n bodoli eisoes ac unrhyw gyngor y gallai'r grŵp ei geisio gan Lywodraeth Cymru a/neu Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Bydd diweddariadau’n cael eu darparu pan fyddant ar gael. 

Newyddion Diweddaraf

97 o Glybiau Chwaraeon yng Nghymru wedi cael eu cefnogi gyda Grantiau Arbed Ynni

Mae 97 o glybiau chwaraeon ledled Cymru wedi cael cyllid gan Chwaraeon Cymru i wneud gwelliannau arbed…

Darllen Mwy

£1.7m mewn Grantiau Arbed Ynni i glybiau chwaraeon ledled Cymru

Mae clybiau chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru yn dod yn wyrddach, ac yn rhatach i’w cynnal, diolch…

Darllen Mwy

Crynodeb o Chwaraeon yng Nghymru yn 2024

Os yw'n ddigon da i Spotify, mae'n ddigon da i ni.2024 oedd y flwyddyn pryd torrwyd mwy o recordiau,…

Darllen Mwy